Cafodd y gorchudd coes gwladgarol ei ddylunio gan Sean Mason a Mark Williams, sef sefydlwr LIMB-art, a’i ddadlennu yn ystod Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych.  

 

Sefydlwyd LIMB-art yn 2018 gan y cyn-nofiwr ac enillydd medal paralympaidd Mark Williams, a’i wraig Rachel. Crëwyd y cwmni o ganlyniad i awydd dirfawr i helpu defnyddwyr prosthetigau i fod yn fwy hyderus, bod yn falch o’r hyn sydd ganddynt ac, yn syml iawn ond yr un mor bwysig, cael hwyl yn dangos eu hunain wrth wneud hynny.  
 

 

Esboniodd Mr Williams yr hyn a ysbrydolodd fersiwn arbennig yr Urdd o’r gorchudd coes: 

 

“Fel yr unig fudiad Cymraeg i bobl ifanc yng Nghymru, mae gan yr Urdd le arbennig iawn yn fy nghalon. Fel plentyn, gwnes i gystadlu mewn llawer o eisteddfodau ac mae gen i atgofion melys iawn o’r dyddiau hynny.  

“Fel cwmni sydd wedi’i leoli ger Dinbych, rydym yn gweld arwydd Mr Urdd i fyny ar y mynydd ac mae pob aelod o’n  tîm yn siarad Cymraeg yn rhugl. Gyda chysylltiadau cryf o’r fath â’r Urdd, roeddem yn awyddus i nodi canmlwyddiant yr Urdd ac roedd dylunio a chynhyrchu gorchudd coes yn deyrnged addas i’r achlysur; rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed i’w ddatblygu dros yr ychydig fisoedd diwethaf.” 

Mae LIMB-art wedi cael cefnogaeth drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. Mae’r rhaglen yn darparu cymorth a dargedir ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sy’n tyfu. Mae wedi’i hariannu yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Drwy’r rhaglen, cefnogwyd agweddau marchnata, gwerthiant a chysylltiadau cyhoeddus y cwmni, ac mae hyn wedi bod yn amhrisiadwy yn ôl Mr Williams: 

“Mae’r cymorth rydyn ni wedi’i gael drwy’r Rhaglen Cyflymu Twf wir wedi ein helpu i roi cyhoeddusrwydd i’n cynhyrchion dros y byd i gyd. Mae hyn wedi ein galluogi i gael mynediad at farchnadoedd allforio newydd a chreu partneriaethau â dosbarthwyr, sydd bellach yn gyfrifol am fwy na 25% o’n trosiant blynyddol.” 

Esboniodd Mr Williams y cafodd ei gwmni ei greu o ganlyniad i rwystredigaeth ynghylch y diffyg dewis a oedd ar gael i bobl yr oedd angen aelodau prosthetig a gorchuddion prosthetigau arnynt: 

“Yn hanesyddol, mae’r cynhyrchion i bobl ag anabledd wedi canolbwyntio’n llwyr ar eu swyddogaeth, a bach iawn o feddwl a roddwyd i’w hestheteg, os o gwbl. Os ewch chi i IKEA i ddod o hyd i gadair ffansi i’ch cegin, mae peth wmbredd o ddyluniadau a lliwiau ffynci y gallwch chi ddewis ohonyn nhw. Ond o ran cyfarpar arbenigol i’r rheini sy’n byw gydag anableddau, mae llawer llai o sylw’n cael ei roi i ddyluniad a golwg. Fel rhywun sydd wedi cael trychiad fy hun, canfyddais i mai lliwiau brown a hufen yn aml oedd yr unig “ddewis” a oedd ar gael.   

“Chafodd LIMB-art ddim ei eni fel busnes, ond yn hytrach mewn ymateb i’r problemau diffyg hyder a delwedd corff roedd gen i ynglŷn â’m coes brosthetig. O ganlyniad i ryw sylw a wnaeth plentyn pedair oed bod fy nghoes yn edrych yn cŵl, cefais fy ysbrydoli i droi’r hyn a ddechreuodd fel ychydig o hwyl yn fenter busnes o ddifrif. Heddiw, rwy’n falch o redeg y cwmni cyflenwi gorchuddion coes prosthetig mwyaf cŵl yn y byd, ac mae ein cynhyrchion ar gael ym mhobman, o’r GIG yn y DU i Queensland yn Awstralia.” 

Aeth Mr Williams ymlaen i esbonio bod adeg gyffrous ar y gorwel i’r cwmni, a bod dyluniadau gorchudd coes newydd yn yr arfaeth:  

“Rydym yn hynod falch o’n dyluniad o fersiwn arbennig yr Urdd o’r gorchudd coes. O weld faint o sylw a gawsom yn ystod yr eisteddfod, roedd ein gorchudd arbennig i aelod o’r corff wir wedi dal dychymyg pobl.  

“Rydym bellach yn gweithio ar orchudd arbennig ar thema pêl-droed Cymru i ddathlu’r ffaith ein bod wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd. Mae’r neges oddi wrthym ni’n glir – ni fu amser gwell i fod yn Gymro trychedig a balch erioed!”
 


I gael rhagor o wybodaeth am LIMB-art, ewch yma.
 

Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru

 


Mae’r Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn rhaglen tros Gymru a ariennir yn rhannol gan yr Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy’r Lywodraeth Cymruv.

 

Share this page

Print this page