Mae'r entrepreneur o Ruthun, Rhian Parry, wedi cael ei henwi'n un o'r 100 entrepreneur benywaidd mwyaf ysbrydoledig yn y DU gan ymgyrch '#ialso100' Busnesau Bach Prydain.

Mae Rhian, a sefydlodd Workplace Worksafe - un o gyflenwyr annibynnol blaenllaw offer iechyd a diogelwch, cyfarpar amddiffyn personol (PPE) a dillad gwaith â brand yn 2005 - yn cael ei chydnabod ochr yn ochr â 99 o entrepreneuriaid benywaidd o bob rhan o'r DU sy'n ffynnu er gwaethaf yr heriau a gafwyd gan bandemig COVID-19. 

Bellach yn ei bedwaredd flwyddyn, lansiwyd f:Entrepreneur yn 2017 i dynnu sylw at fodelau rôl benywaidd mewn busnes. Ei nod penodol yw arddangos entrepreneuriaid benywaidd sy'n arwain busnesau bach ochr yn ochr â chyfrifoldebau eraill, megis gwirfoddoli, mentora a gweithgareddau cymorth cymunedol. Mae'r ymgyrch eleni yn dathlu entrepreneuriaid benywaidd ysbrydoledig a gwydn sy'n llwyddo er gwaethaf Covid-19.

 

Sefydlodd Rhian Workplace Worksafe i gyflenwi cyfarpar amddiffyn personol, ac yn ddiweddarach arallgyfeiriodd i feysydd arbenigol fel eitemau amddiffyn ar gyfer ffermydd gwynt ar y môr. Mae'r cwmni wedi datblygu systemau cludiant diogel manyleb uchel yn fwy diweddar ar gyfer cydrannau'r sector ynni, sydd wedi sbarduno twf busnes yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r cwmni'n cyflogi 13 o bobl yn ei ganolfan ar Ystâd Ddiwydiannol Lon Parcwr yn Rhuthun.

Cynorthwywyd Workplace Worksafe gan Raglen Twf Cyflym Busnes Cymru sy'n darparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sy'n tyfu. Ariennir y rhaglen yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
 

Rhian Parry o Workplace Worksafe
Rhian Parry o Workplace Worksafe

 

Wrth sôn am ei chynnwys yn y #ialso100, dywedodd Rhian:

"Mae'n anrhydedd mawr i mi gael fy newis fel un o'r 100 entrepreneur benywaidd ysbrydoledig gorau yn y DU. Mae'r tîm a fi wedi gorfod gweithio'n eithriadol o galed i gadw'r busnes i symud ymlaen yn y cyfnod heriol hwn. Mae cael cydnabyddiaeth y gymuned fusnes yn ystod y cyfnod hwn yn creu balchder mawr."

 

Ers ymuno â rhaglen Rhaglen Twf Cyflym Busnes Cymru (AGP) yn 2015, mae Workplace Worksafe wedi derbyn mentora a chyngor arbenigol ar farchnata, cysylltiadau cyhoeddus a gwerthiannau. Mae'r gefnogaeth hon wedi bod yn "amhrisiadwy" yn ôl Rhian Parry:

"Mae wedi bod mor ddefnyddiol cael cefnogaeth ein rheolwr perthynas Idris Price a hyfforddwyr arbenigol i'n helpu i lywio'r heriau sy'n gysylltiedig â datblygu busnes, yn enwedig dros y blynyddoedd diwethaf. Dwi'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a gawsom gan Raglen Twf Cyflym Busnes Cymru a byddwn yn ei hargymell i unrhyw fusnes sy'n awyddus i ddatblygu a thyfu."

 

Dywedodd Richard Morris o Gonsortiwm Cyflymu Rhagoriaeth, sy'n darparu Rhaglen Twf Cyflym Busnes Cymru:

"Rydym yn falch iawn o weld Rhian yn cael ei chynnwys ar y rhestr fawreddog hon. Er gwaethaf rhwystrau sylweddol y flwyddyn ddiwethaf, mae ei stori'n dangos bod entrepreneuriaeth menywod yn parhau i dyfu a ffynnu yng Nghymru. Mae'r gwydnwch y mae Rhian wedi'i ddangos yn hynod werthfawr, ac rydym yn hyderus y bydd yn ei sefydlu ar gyfer llwyddiant parhaus wrth i ni edrych ymlaen at amseroedd gwell."

Mae Workplace Worksafe wedi cael ei gydnabod gyda nifer o wobrau mawreddog yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn 2019, enillodd cynnyrch a gynlluniwyd ac a ddatblygwyd gan Rhian, ac a weithgynhyrchwyd yng Nghymru, y wobr uchel ei chanmol gan Ffederasiwn Diwydiant Diogelwch Prydain (BSIF). Enillodd Rhian wobr Womenspire hefyd gan y corff cydraddoldeb Chwarae Teg am ei chyfraniad i'r economi wledig yn 2018.

 

I weld y rhestr lawn o'r 100 o fenywod anhygoel a gafodd sylw yn yr ymgyrch f:entrepreneur #ialso100 eleni https://f-entrepreneur.com/fentrepreneur-100/

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page