Mae carfan eleni yn cynnwys unigolion o bob cwr o Gymru sy’n gweithredu mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys bwyd figan, technoleg diogelwch a lletygarwch. 

Ymhlith y 25 o Sêr y Dyfodol a ddatgelwyd yn llawn yng nghylchgrawn diweddaraf Insider y mae arweinwyr pum busnes sy’n rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, sef:  

  • Callum Griffith - Clydach Farm
  • Toby White - Market Mate
  • Chris McDermid - MM Engineering
  • Stephanie Locke - Nightingale HQ
  • Emma Taylor - Netlet Properties 

 

Mae Clydach Farm yn Abercynon yn cynhyrchu bwyd ci “o’r fferm i’r bowlen”. Dechreuodd y sefydlydd Callum Griffiths werthu yn ei farchnad leol pan oedd yn 13 oed a bellach, yn 21 oed, mae’n arwain busnes gyda 20 o weithwyr sy’n allforio ei gynnyrch ar draws y byd.

Roedd Toby White, 23 oed, wedi sefydlu MarketMate ar ôl sylwi ar fwlch yn y farchnad ar gyfer cynhyrchu cynnwys drwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial. Wedi’i leoli yn Eagle Lab yng Nghaerdydd, mae’r cwmni wedi sicrhau buddsoddiad gan Banc Datblygu Cymru ac erbyn hyn mae ganddo chwe staff amser llawn a phedwar rhan-amser.  

Chris McDermid, 34 oed, yw cyd-sefydlydd MM Engineering sy’n arbenigo mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd a ffrwydradau. Gwnaeth y cwmni fwy na £2 filiwn o drosiant yn ei drydedd flwyddyn o fasnachu, gyda thwf yn cael ei sbarduno gyda £175,000 o gymorth gan UK Steel Enterprise a Banc Datblygu Cymru.

Roedd Stephanie Locke, 33 oed, wedi sefydlu Nightingale HQ yng Nghaerffili i helpu busnesau i elwa ar bŵer deallusrwydd artiffisial i ddatblygu eu strategaeth, eu diwylliant a’u sgiliau. Mae’r cwmni yn ceisio buddsoddiad fel rhan o’i strategaeth ar gyfer twf.

Emma Taylor, 32 oed, yw cyfarwyddwr marchnata a strategaeth Netlet Properties o Sir Benfro sy’n rhwydwaith o eiddo gyda mentrau ar waith mewn eiddo gwyliau, gwasanaethau cynnal a chadw a golchi, a chymorth domestig. Gwelodd y cwmni 5% o gynnydd mewn gwerthiannau rhwng 2019 a 2020. 

Wrth fynegi barn ar y rhestr o Sêr y Dyfodol, dywedodd Douglas Friedli, golygydd Insider:

"Bob blwyddyn mae Insider yn dewis 25 entrepreneur o dan 40 oed o bob cwr o Gymru sydd wedi cyflawni cryn dipyn, ac sydd, yn ein barn ni, yn mynd i gyflawni llawer mwy. Roedd y 25 a ddewiswyd eleni wedi dangos eu bod yn uchelgeisiol, yn arloesol ac yn barod i ail-greu’r marchnadoedd y maen nhw’n gweithio ynddynt. Roedd y rhan fwyaf wedi dangos eu bod yn barod i addasu eu ffordd o weithio ac i oresgyn yr heriau unigryw y bu’n rhaid iddynt eu hwynebu yn 2020.”

 

Dywedodd Richard Morris, Cyfarwyddwr Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru: 

"Rydyn ni’n falch iawn o weld pum arweinydd busnes ifanc ac ysbrydoledig sy’n cymryd rhan yn ein rhaglen yn ymddangos ar y rhestr o’r entrepreneuriaid mwyaf cyffrous yng Nghymru. Maent i gyd wedi troi eu syniadau a’u brwdfrydedd yn fentrau ffyniannus sy’n cyfrannu at eu heconomïau lleol, yn creu gwaith ac yn helpu i lywio’r sectorau y maent yn gweithio ynddynt.

 

Nod y Rhaglen Cyflymu Twf yw adnabod busnesau sydd â photensial mawr i dyfu a’u helpu i gyflawni’r potensial hwnnw drwy gymorth wedi’i dargedu. Mae’n arbennig o werth chweil gweld cymaint o arweinwyr busnes talentog ifanc sy’n rhan o’n rhaglen yn ymddangos ar y rhestr glodfawr hon, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw wrth iddynt barhau i dyfu.”  


Gwybodaeth bellach am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

 

Share this page

Print this page