Bond Digital Health yn llwyddo i ddenu cyllid ecwiti i helpu i ymladd Covid-19
Mae’r cwmni technoleg iechyd Bond Digital Health wedi denu buddsoddiad enfawr i’w helpu i ddatblygu technoleg profi ar gyfer Covid-19. Llwyddodd y cwmni o Gaerdydd − sy’n rhan o gonsortiwm sy’n cynhyrchu profion diagnostig ar gyfer cleifion yr amheuir bod ganddynt Covid-19 − i gael gafael yn gyflym ar gyllid ecwiti drwy’r Clwb Cyfoeth a Banc Datblygu Cymru. Cafodd y consortiwm ei sefydlu gan fenter Sona Nanotech o Ganada. Mae technoleg Bond, sydd o safon feddygol ac sy’n tynnu data o brofion diagnostig ac yn dadansoddi’r data hynny, yn rhan hollbwysig o ymdrechion y consortiwm i wella profion diagnostig.

 

Sgyrsfot Business Butler yn helpu busnesau sy’n ei chael yn anodd yn ystod yr argyfwng.
Mae Business Butler, gwasanaeth yn Abertawe sy’n darparu adnoddau ar gyfer busnesau, wedi lansio sgyrsfot i helpu busnesau sy’n ei chael yn anodd ymdopi â’r argyfwng. Mae Boris y sgyrsfot yn mynd ati bob dydd i roi’r wybodaeth a’r cyngor diweddaraf am y cyllid a’r cymorth sydd ar gael ar gyfer busnesau o bob math. Mae’r sgyrsfot yn gofyn cwestiynau am y busnes ac am ei leoliad ac yn cyfeirio’r sawl sy’n ei ddefnyddio at ragor o ffynonellau gwybodaeth a chyngor. 

 

Distyllfa Castell Hensol yn cyflenwi hylif golchi dwylo i’r GIG.
Cafodd y busnes newydd hwn ei sefydlu fis Awst diwethaf gan Andy Mallows. Ni allai fod wedi rhagweld erioed y byddai ei gwmni, lai na blwyddyn yn ddiweddarach, yn un o’r cyflenwyr allweddol yn y frwydr yn erbyn pandemig angheuol. Mae’r cwmni o Hensol ym Mro Morgannwg, yn cynhyrchu jin crefft ac mae wedi mynd ati yn lle hynny i gynhyrchu 800,000 o litrau o hylif golchi dwylo ar gyfer y GIG a’r sector gofal − gan oresgyn problemau ar yr ochr gyflenwi a oedd yn cynnwys cael gafael ar boteli polyethylen tereffthalad (PET) a glyserol, sydd wedi mynd yn ddrutach o lawer yn ystod y pandemig.

 

Simply Do yn arloesi er mwyn helpu i gydgysylltu cyflenwadau hanfodol mewn  ymateb i argyfwng Covid-19
Mae’r cwmni technoleg Simply Do, ar y cyd â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, wedi datblygu porth ar-lein ar gyfer y sector gwasanaethau iechyd, lle mae’n cyflwyno’r cynigion sydd ar gael i GIG Cymru. Nod y porth yw hwyluso’r gwaith o gaffael ar gyfer y GIG fel y bo modd gwneud y gwaith hwnnw mewn ffordd fwy effeithiol ac yn gynt ar yr adeg dyngedfennol hon. Mae’r porth yn nodi busnesau sydd â’r potensial i gyflawni eitemau ar restr GIG Cymru o gynhyrchion hanfodol. Mae’n caniatáu hefyd i gwmnïau gofrestru eu manylion cyswllt, a gwybodaeth am eu busnes a’u cynnyrch ac i lanlwytho tystiolaeth berthnasol sy’n dangos bod eu cynnyrch yn cydymffurfio â’r rheoliadau.

 

Transcend Packaging
Mae Transcend Packaging, cwmni o Ystrad Mynach sy’n cynhyrchu deunyddiau pacio cynaliadwy, yn helpu i gael gwared ar filiynau o wellt plastig o’r farchnad ac i leihau gwastraff plastig drwy gyflenwi gwellt papur i gwmnïau sy’n cynnwys McDonald's. Ond yn ystod yr argyfwng, mae’r cwmni wedi defnyddio’r arbenigedd sydd ganddo i gynhyrchu amddiffynwyr wyneb ar gyfer gweithwyr GIG Cymru, yn ogystal â gweithwyr eraill sy’n gweithio yn y rheng flaen mewn diwydiannol allweddol.



Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

 

Share this page

Print this page