Bydd technoleg cywasgu thermal a gafodd ei datblygu yng Nghymru yn helpu Llynges yr Unol Daleithiau i leihau’r gwastraff mae ei fflyd yn ei gynhyrchu hyd at 75%.

Mae Thermal Compaction Group (TCG) o Gaerdydd wedi gwerthu prototeip o’u system cywasgu thermol Massmelt, y mae ganddynt y patent ar ei chyfer, i Lynges yr Unol Daleithiau mewn cytundeb gwerth chwe ffigur. Mae'r cwmni bellach yn cynnal trafodaethau i drwyddedu'r dyluniad i’w weithgynhyrchu yn yr Unol Daleithiau, mewn cytundeb a allai fod yn werth miliynau o ddoleri.

Sefydlwyd TCG, a leolir yn Curran Road, yn 2014 ac mae'n arbenigo mewn systemau ailgylchu gwastraff cynaliadwy sy'n darparu atebion cost-effeithiol i broblemau rheoli gwastraff cyffredin.

 

Mae’r cwmni wedi derbyn cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, sy'n rhoi cymorth wedi'i dargedu i gwmnïau uchelgeisiol sy'n tyfu. Ariennir y rhaglen yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Mae'r tîm yn cynnwys ymchwilwyr a pheirianwyr sy’n rhannu ymrwymiad i sicrhau dyfodol gwyrddach drwy dechnoleg arloesol a ddiogelir gan batentau. Mae'r cwmni wedi datblygu amrediad o gynhyrchion sy'n cyfrannu at yr economi gylchol drwy leihau lefel y gwastraff sy’n cael ei gynhyrchu a chaniatáu iddo gael ei ailddefnyddio neu ei ailgylchu. Mae cynhyrchion TCG yn canolbwyntio'n benodol ar brosesu plastigau untro, gan leihau faint o’r rhain sy’n cyrraedd safleoedd tirlenwi neu’r môr.

Mae system Massmelt y cwmni yn defnyddio proses gywasgu a gwres i leihau cyfaint gwastraff tua 75%, a chael gwared ar tua 25% o’r lleithder sydd ynddo. Mae'r system yn defnyddio plastigau o fewn y gwastraff i ffurfio cramen neu groen sy'n rhwymo’n thermal ar y tu allan, gan ganiatáu i'r allbwn gynnal siâp silindraidd ar ddiwedd y broses gywasgu thermol. Gellir torri'r 'boncyffion' sy’n dod allan i unrhyw hyd a'u hail-ddefnyddio at amrywiaeth o ddibenion, gan gynnwys pyst ffensys neu amddiffynfeydd rhag llifogydd. Yn ogystal ag atal gwastraff rhag cyrraedd safleoedd tirlenwi, mae Massmelt yn cyfrannu at leihau’r ôl troed carbon drwy leihau'r cludiant sydd ei angen i waredu gwastraff.

 

L-R: Philip Davison-Sebry, Thomas Davison-Sebry a Mathew Rapson o Thermal Compaction Group, Caerdydd, gyda system cywasgu thermal Massment, y mae ganddynt y patent ar ei chyfer, sy’n cael ei threialu gan Lynges yr Unol Daleithiau.
L-R: Philip Davison-Sebry, Thomas Davison-Sebry a Mathew Rapson o Thermal Compaction Group, Caerdydd, gyda system cywasgu thermal Massment, y mae ganddynt y patent ar ei chyfer, sy’n cael ei threialu gan Lynges yr Unol Daleithiau.


Wrth drafod y cytundeb gyda Llynges yr Unol Daleithiau, dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr TCG, Philip Davison-Sebry:

 "Mae Llynges yr Unol Daleithiau yn gweithredu miloedd o awyrennau, dros 280 o longau rhyfel a llongau tanfor, 140 o longau atodol, a thua 200 o osodiadau i gefnogi'r asedau hynny'n fyd-eang. Mae'n cydnabod ei chyfrifoldeb i wasanaethu fel stiward da o'r amgylchedd fel rhan o'i chenhadaeth, ac rydym yn falch iawn ein bod yn gallu gweithio gyda Llynges yr Unol Daleithiau i helpu i leihau lefel y gwastraff mae'n ei gynhyrchu ar draws ei fflyd enfawr.

"Ar hyn o bryd, mae'r prototeip yn cael ei dreialu mewn Labordy Ymchwil y Llynges ym Maryland, gyda'r bwriad o weithgynhyrchu'r system yn yr Unol Daleithiau o dan drwydded, os yw’r treialu’n llwyddiannus. Ar hyn o bryd, mae popeth i’w weld yn gadarnhaol, ac mae trafodaethau’n mynd rhagddynt am y camau nesaf.

"Cafodd ein busnes ei eni o angerdd dros ddefnyddio peirianneg ddeallus i ddatrys un o'r materion mwyaf sy'n wynebu'r blaned heddiw – sut i leihau effaith gwastraff, a'i ailddefnyddio lle bo hynny'n bosibl. Mae'n destun llawer o falchder i'n tîm bach fod ein technoleg yn cael ei defnyddio i helpu llu arfog mor fawr i leihau ei effaith amgylcheddol."

 

L-R: Thomas Davison-Sebry a Philip Davison-Sebry o Thermal Compaction Group, Caerdydd, gyda system cywasgu thermal Massment, y mae ganddynt y patent ar ei chyfer, sy’n cael ei threialu gan Lynges yr Unol Daleithiau.
L-R: Thomas Davison-Sebry a Philip Davison-Sebry o Thermal Compaction Group, Caerdydd, gyda system cywasgu thermal Massment, y mae ganddynt y patent ar ei chyfer, sy’n cael ei threialu gan Lynges yr Unol Daleithiau.

 

Mae TCG bellach yn anelu at gynyddu ei weithlu 200% dros y ddwy flynedd nesaf i ateb y galw cynyddol am ei dechnoleg.

Ers ymuno â Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn 2019, mae'r cwmni wedi derbyn mentora a chyngor arbenigol ar ddadansoddi'r farchnad a chyfleoedd am gyllid, ac maen nhw wedi sefydlu cysylltiadau allweddol â chleientiaid. Mae'r cymorth hon wedi bod yn "ddefnyddiol dros ben" yn ôl Mr Davison-Sebry:

"A ninnau yn gwmni bach, mae cefnogaeth ein rheolwr cysylltiadau Howard Jones a sawl hyfforddwr busnes profiadol wedi bod yn amhrisiadwy, wrth inni symud o'r cam ymchwil a datblygu i gyfnod o dyfu’n gyflym.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am y gwasanaeth a gawson ni gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, a bydden ni’n ei argymell i unrhyw fusnes sy'n ceisio cynyddu a thyfu."

Dywedodd Richard Morris o’r Consortiwm Cyflymu Rhagoriaeth, sy’n darparu Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Wales:

“Mae'n wych gweld technoleg TCG ar gyfer lleihau gwastraff yn cael ei threialu gan Llynges yr Unol Daleithiau. Mae'n amlwg bod y dechnoleg hwn yn darparu llawer o fanteision, a hoffen ni ddymuno’n dda iddyn nhw gyda’r fenter hon. Mae TCG yn enghraifft wych o fusnes arloesol yng Nghymru yn arwain y ffordd yn yr ymdrech i leihau effaith gwastraff ledled y byd."


 

Dysgu mwy am TCG.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

 

Share this page

Print this page