Mae La Crème Patisserie, busnes gweithgynhyrchu a gwerthu cacennau o safon uwch, wedi mynd yn groes i duedd y pandemig drwy agor ei siop fanwerthu bwrpasol gyntaf erioed. Mae'r busnes teuluol, sydd â chyfleusterau gweithgynhyrchu yng Nghastell-nedd a Chwmbrân, wedi arwyddo prydles 10 mlynedd ar safle 1200 o droedfeddi sgwâr yn 24-26 Stryd Fawr Llandaf yng Nghaerdydd. Bydd y siop yn galluogi cwsmeriaid i brynu ystod eang o gacennau, pwdinau a danteithion o’r radd flaenaf i'w cymryd i ffwrdd i’w mwynhau.

 

Ian a Sian Hindle o La Crème Patisserie
Ian a Sian Hindle o La Crème Patisserie

 

Sefydlwyd La Crème Patisserie yn 2005 gan y tîm gŵr a gwraig Ian a Sian Hindle. Cyn hynny, bu'r Rheolwr Gyfarwyddwr a'r Pennaeth Pâtissier Sian yn gweithio yn y maes datblygu cynnyrch newydd ar gyfer Tesco ac roedd bob amser yn breuddwydio am redeg ei busnes ei hun. Gyda'i gŵr Ian yn Gyfarwyddwr Ariannol, a’u dau o blant yn gweithio mewn rolau gweithredol allweddol, roedd y busnes wedi darparu gwasanaeth i gwsmeriaid masnachol mawr fel Gwesty’r Celtic Manor, Palas Llys Hampton a Gerddi Botaneg Brenhinol Kew i ddechrau. 

Aeth y cwmni o nerth i nerth, gan ehangu i gyflogi 18 o bobl ar draws dau gyfleuster cynhyrchu ym Maglan a Chwmbrân cyn i bandemig COVID-19 daro. Gan fod llawer o gwsmeriaid mwyaf y cwmni yn gweithio yn y byd lletygarwch, roedd archebion ac incwm y busnes ar fin diflannu dros nos. Gwnaeth Sian ac Ian y penderfyniad cyflym i roi ei model busnes ar waith, i gynnig eu cacennau o safon uwch yn uniongyrchol i'r cyhoedd am y tro cyntaf. Ymatebodd cwsmeriaid yn eu miloedd i’r cyfle hwn i brynu danteithion sydd fel arfer ond ar gael mewn gwestai a digwyddiadau moethus, yn gyntaf ar lafar ac yna drwy safle e-fasnach pwrpasol. Dywed Sian Hindle mai'r ymateb llethol hwn a roddodd yr hyder i'r cwmni ymuno â'r farchnad fanwerthu am y tro cyntaf: 

“Ar ôl 15 mlynedd o waith caled, gan adeiladu ein busnes teuluol yn weithgynhyrchwyr cacennau o safon uwch, gallai'r pandemig fod wedi ein dinistrio. Gwyddem fod yn rhaid i ni symud yn gyflym i oroesi, ac roedd yn gwneud synnwyr targedu'r cyhoedd drwy werthu cacennau a’u danfon yn uniongyrchol atynt. Yr hyn nad oeddem yn ei ddisgwyl oedd pa mor anhygoel fyddai'r ymateb. I ddechrau, gwnaethom agor ein cyfleusterau gweithgynhyrchu fel y gallai'r cyhoedd gasglu archebion oddi wrthym, ac arweiniodd y galw am hynny at lansio safle e-fasnach i werthu bocsys te prynhawn a danteithion eraill, a gyflwynwyd gennym ledled De Cymru.

"Cynyddodd y galw am archebion ar-lein yn gyflym, a oedd yn ein galluogi i ddiogelu ein hincwm a llawer o swyddi. Ar ôl adeiladu model busnes newydd llwyddiannus o'r dechrau dros y 12 mis diwethaf, nid oeddem am roi’r gorau i hynny. Roedd agor siop fanwerthu yn ymddangos fel y cam nesaf amlwg, a gobeithiwn mai ein safle newydd yn Llandaf fydd y cyntaf o lawer”.

 

Cynorthwywyd La Crème Patisserie gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP), sy'n darparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sy’n tyfu. Ariennir y rhaglen yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae'r gefnogaeth hon wedi bod yn "amhrisiadwy" wrth lywio'r heriau a'r cyfleoedd a gyflwynir gan y pandemig, yn ôl Sian Hindle:

“Mae'r Rhaglen Cyflymu Twf wedi ein cefnogi o ran marchnata, brandio, cyllid grant, e-fasnach a delweddu brand ar gyfer y siop newydd. Mae'r cymorth hwn sydd wedi'i dargedu'n dda wedi bod yn allweddol i gyflawni ein model busnes newydd. Rydym yn hynod ddiolchgar am yr help a'r arweiniad a gawsom yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn. Ar hyn o bryd rydym yn cyflogi 22 o bobl ar draws ein safleoedd ac yn anelu at recriwtio deg aelod arall i'r tîm erbyn diwedd y flwyddyn”.

 

Dywedodd Richard Morris o Gonsortiwm Excelerator, sy'n darparu Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru:

"Mae'n wych gweld La Crème Patisserie, stori lwyddiant go iawn o Gymru, yn mynd yn groes i'r duedd drwy agor ei siop fanwerthu gyntaf. Mae'r busnes wedi gwneud yn hynod o dda i drawsnewid ei fodel busnes yn ystod y pandemig, ac mae llwyddiant ei ymdrechion yn argoeli'n dda ar gyfer ei fenter i fanwerthu ar y stryd fawr. Fel cynifer o fusnesau eraill, roeddent wedi wynebu argyfwng yn gynnar yn 2020 ac roedd eu gweledigaeth, dewrder a’u gwaith caled anhygoel wedi llywio'r her honno. Rwy'n hyderus y byddant yn parhau i fwynhau blas melys llwyddiant gyda'u siop fanwerthu gyntaf erioed, ac edrychwn ymlaen at gefnogi'r busnes wrth iddo ehangu ei waith manwerthu dros y misoedd nesaf."

 


I wybod mwy am La Crème Patisserie, cliciwch yma.

Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru

 

Share this page

Print this page