Mae’r distyllwyr, Andy a Rhys Mallows, yn agor distyllfa newydd fodern gwerth £5M yn Llantrisant. Y tîm tad a mab yw cyd-berchenogion cwmni Mallows Bottling sydd wedi ennill gwobrau yn y gorffennol ac sydd ar fin lansio’r bourbon cyntaf erioed o Gymru ynghyd ag ystod o wirodydd artisan premiwm eraill.

Bydd y ddistyllfa bwrpasol 30,000 troedfedd sgwâr yn gwneud gwaith botelu ar gontract i frandiau rhyngwladol yn ogystal â chynhyrchu gwirodydd Mallows eu hunain.  Mae’r ddistyllfa’n gallu prosesu hyd at 12,000 o boteli’r awr, o boteli 5cl i rai 3 litr, ac yn eu hallforio ledled y byd.  

Ymhlith y gwirodydd fydd yn cael eu cynhyrchu fydd y bourbon cyntaf erioed o Gymru, ‘Charlie Parry’s’. Cafodd ei enwi er cof am dad-cu Rhys a thad-yng-nghyfraith Andy. Caiff y bourbon ei storio mewn casgenni deri newydd o America am ddwy flynedd cyn ei gludo i Gymru.  Yna caiff ei gymysgu â dŵr o Gymru i greu gwirod ag ABV o 40% gydag adflas o fanila, caramel a thaffi iddo.  Mae’r tîm wedi dweud bod diddordeb ‘aruthrol’ eisoes wedi’i ddangos ynddo o bob rhan o’r byd. 

Gwaith botelu ar gontract fydd 90% o gynnyrch Mallows Distillery o ran cyfaint, a chynnyrch Mallows eu hunain, yn jin, rym, chwisgi a liqueurs, yw’r 10% sy’n weddill.

Mae Andy a Rhys rhyngddynt wedi ennill dros 300 o wobrau am y diodydd y maen nhw wedi’u creu ac maen nhw wrthi’n recriwtio ar gyfer swyddi newydd yn y ddistyllfa. Y nod yw creu 29 o swyddi cynhyrchu, cyfrifo, peirianneg a rheoli ansawdd yn y flwyddyn gyntaf.

Mae Mallows Bottling yn cael help Rhaglen Cyflymu Twf (AGP) Busnes Cymru sy’n targedu busnesau uchelgeisiol sy’n tyfu.  Mae’r rhaglen yn cael peth o’i harian gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

 

 

Dywedodd Andy Mallows, cyd-berchennog Mallows Bottling:

“Trwy agor distyllfa newydd, rydym yn gwireddu breuddwyd oes.  Rydym wedi datblygu ystod o wirodydd artisan newydd ac rydyn ni’n disgwyl ymlaen at eu hallforio i wledydd ledled y byd.  Rydyn ni eisoes wedi llofnodi contractau i’w gwerthu i fanwerthwyr yn yr Unol Daleithiau, Ffrainc, Awstralia a Gwlad Pwyl ac mae diddordeb aruthrol wedi’i fynegi yn ein bourbon Charlie Parry.

“Nid yw llawer o bobl yn gwybod am gysylltiadau Cymru â Bourbon traddodiadol. Dywedir bod mam-gu Jack Daniels yn Gymraes a bod teulu Evans Williams Bourbon yn hanu o Sir Benfro cym ymfudo i America.  Mae hi wedi bod yn hen uchelgais ‘da ni i greu y bourbon Cymreig cyntaf, ac rydyn ni’n gyffro i gyd o weld y freuddwyd honno’n dod yn fyw.  Rydyn ni’n rhuddo’r casgenni bourbon i ryddhau’r lliw a’r melyster. ‘Chwythu anadl y ddraig’ rydyn ni’n ei ddweud yn y diwydiant am hynny. Wedyn, rydyn ni’n ychwanegu dŵr o Gymru i roi gwedd Gymreig unigryw i’r ddiod.

“Rydyn ni wedi enwi’r bourbon er cof am fy niweddar dad-yng-nghyfraith, a oedd yn ddyn arbennig iawn ac yn hoff iawn o’i fourbon.  Un o’i storïau sydd wedi aros yn y cof yw iddo ddefnyddio’i gyflog cynta yn Nociau Casnewydd, ac yntau’n 16 oed, i brynu sannau ar gyfer y plant oedd yn byw ar ei stryd. Rydyn ni am anrhydeddu’r haelioni hwnnw, felly byddwn ni’n rhoi 12 potel gyntaf pob batsh i elusennau o Gymru i’w gwerthu mewn ocsiwn.  Y gobaith yw codi arian mawr ei angen ar gyfer achosion da dros y blynyddoedd i ddod.  Doedden ni ddim yn gallu meddwl am ffordd well o gadw enw da Charlie.”

 

Ers ymuno â Rhaglen Cyflymu Twf (AGP) Busnes Cymru, mae Mallows Bottling wedi cael eu mentora a chyngor arbenigol ar y farchnad ddigidol ac adnoddau dynol. Mae’r help hwnnw wedi bod yn “amhrisiadwy” meddai Rhys Mallows:

“Mae’r gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael trwy’r Rhaglen Cyflymu Twf wedi bod yn wych.  Mae’r swyddog Howard Jones yn deall maint ein huchelgais ac mae’r gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael yn adlewyrchu’r uchelgais hwnnw.  Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am yr help a bydden ni’n cynghori unrhyw fusnes sydd am dyfu i gysylltu â’r rhaglen.”

 

Dywedodd Richard Morris o’r Excelerator Consortium, sy’n darparu Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru:  

“Mae tîm Mallows Bottling yn cyfuno dealltwriaeth ddofn o’r diwydiant a meddwlfryd arloesol, ac rwy’n siŵr y gwnaiff eu Bourbon Cymreig gydio yn nychymyg pobl ym mhob cwr o’r byd.  Mae’r buddsoddiad sylweddol yn y ddistyllfa newydd yn ddechrau pennod newydd gyffrous i’r tîm llwyddiannus ac rydyn ni’n rhagweld dyfodol disglair i’r busnes.”


 

Dysgu mwy am Mallows Beverages.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

 

Share this page

Print this page