Lansiodd Jody Goode ei fusnes, Snowdon Timber, yn 2019. Wedi treulio degawd yn masnachu pren yn rhyngwladol, penderfynodd ei fod yn amser mynd yn annibynnol a sefydlu ei gwmni ei hun gan gynnig pren safonol i’w werthu i siopau cenedlaethol mawr.

Dechreuodd y cwmni fasnachu ym Mochdre ac maen nhw wedi agor ail safle ym Mangor yn ddiweddar.

Mae Snowdon Timber wedi cael ei gefnogi drwy Raglen Cyflymu Twf (RhCT) Busnes Cymru. Mae’r RhCT yn cynnig cymorth sydd wedi’i dargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sy’n tyfu. Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

 


Yma, mae Jody Goode yn rhannu taith ei fusnes ac yn esbonio sut mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu’r cwmni i fod yn fwy cystadleuol.
 

Dywedwch wrthym am Snowdon Timber
Mae’r busnes yn deillio o fy angerdd am gynnig y pren gorau i’w werthu i siopau cenedlaethol dibynadwy. Ar ôl degawd o wneud hynny i gwmnïau rhyngwladol mawr, penderfynais fod yr amser wedi cyrraedd i mi fynd ar liwt fy hun.

Ers i ni lansio, rydym wedi mynd o nerth i nerth. Rydym wedi ehangu ystod ein cynnyrch, a bellach rydym yn cynnig popeth o ddeciau pren a dodrefn yr ardd i bebyll ar y to o’r safon uchaf ar gyfer gwersylla gwyllt.

Rydym wedi agor dau safle ym Mochdre a Bangor, ac mae’r busnes yn ffynnu. Gyda mwy o bobl yn buddsoddi yn eu cartrefi a’u gerddi, mae cynnydd mawr wedi bod yn y galw am gynnyrch pren safonol. Felly, rydym yn manteisio i’r eithaf ar hyn.

 

Beth rydych mwyaf balch ohono am y busnes hyd yn hyn?
Rwy’n falch fy mod wedi dechrau’r busnes heb lawer o wariant cyfalaf o gwbl. Yn lle hynny, diolch i fy rhwydwaith o gysylltiadau a fy ngwybodaeth am y diwydiant, roeddwn i’n gallu dibynnu ar ewyllys da ac ymddiriedaeth wrth brynu ein stoc gychwynnol. Felly, rwy’n falch fy mod wedi mentro ac rwyf yn sicr wedi elwa o hynny. Rwyf hefyd yn falch iawn o’n safle newydd ym Mangor, sydd i’w weld yn boblogaidd iawn â chwsmeriaid.

 

Pa heriau rydych chi wedi’u hwynebu yn y byd busnes?
Gweler uchod! Roedd dechrau gydag ychydig o gyfalaf yn sicr yn heriol, ond roeddwn i’n gallu goroesi hynny drwy gynllunio’n ofalus. Yn anffodus, gwnaeth COVID gyflwyno heriau annisgwyl. Yn sydyn, roedd rhaid i ni addasu’n gyflym i’r holl heriau newydd, fel cadw pellter cymdeithasol, absenoldeb oherwydd salwch a chost gynyddol stoc. Rwy’n falch o sut wnaethom ddelio â hynny a sut wnaethom gryfhau fel tîm a busnes.

 

Os byddech chi’n dechrau eto, beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Byddwn i’n meddwl yn fwy gofalus am ble i leoli ein safle cyntaf, a byddwn i wedi treulio mwy o amser yn meddwl am hyfforddiant staff a sut i’w helpu i wneud penderfyniadau anodd. Ond, nid oedd modd gwybod beth oedd i ddod o ran COVID, felly mae’n hawdd gweld y pethau hynny wrth edrych yn ôl!

 

Sut mae cymorth gan RhCT Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Mae Rhaglen Cyflymu Twf wedi bod yn ddefnyddiol iawn i ni. Mae’r rhaglen wedi ein helpu gyda’n cynlluniau ariannol, gwaith adnoddau dynol, materion cydraddoldeb ac amrywiaeth, gwaith recriwtio ac arallgyfeirio.

Mae ein Rheolwr Cydberthnasau, Idris Price, hefyd wedi bod yn wych o ran rhoi cyngor, arweiniad a chymorth dros y blynyddoedd diwethaf. Heb os nac oni bai, byddwn i’n argymell y rhaglen i fusnesau uchelgeisiol sydd am dyfu.

 

Pa gyngor ac arweiniad y byddech chi’n eu rhoi i fusnesau newydd eraill?
Gwnewch eich ymchwil: Cyn i chi ddechrau cynllunio eich busnes, gwnewch ymchwil i weld a oes galw am eich cynnyrch neu wasanaethau i weld a yw’n hyfyw.

Byddwch yn realistig: Roeddwn i’n gweld bod cydbwyso fy mrwdfrydedd gyda gwir realiti’r sefyllfa’n ddefnyddiol.

 

I ddysgu mwy am Snowdon Timber, ewch yma.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

 

A picture containing graphical user interface

Description automatically generated


Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn rhaglen Cymru gyfan a ariennir ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Share this page

Print this page