Y Cymorth a’r Arian
O ymchwil sylfaenol i gynhyrchu cynnyrch ar raddfa fasnachol, credwn fod busnesau Cymru’n haeddu’r arweiniad a’r cymorth gorau.
Gallwch arloesi mewn unrhyw ran o’ch busnes. Waeth ydych angen cydweithwyr newydd neu gymorth academaidd; arbenigedd allanol neu ddyluniadau newydd; cyngor ar eiddo deallusol neu gyllid ar gyfer prynu cyfarpar newydd, hoffem eich helpu.
Dyma pam rydym wedi datblygu cymorth o’r enw SMART. Wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, mae Llywodraeth Cymru’n gweithio ochr yn ochr â’r Gronfa i helpu i greu swyddi a gwella bywydau pobl drwy ysgogi ymchwil ac arloesedd sy’n torri tir newydd.