Cyllid Yr Economi Gylchol

Yn cyd-fynd â'r Strategaeth Arloesi, mae Cronfeydd yr Economi Gylchol ar gael i sefydliadau trwy eu gweithgareddau arloesi arfaethedig

  • Yn cefnogi buddsoddiad i gynyddu'r defnydd o gynnwys wedi'i ailgylchu a'i ailddefnyddio mewn cynhyrchion neu gydrannau neu i ymestyn oes cynhyrchion/deunyddiau
  • Bydd gweithgareddau yr Economi Gylchol yn cael eu cefnogi drwy'r Gronfa Economi Gylchol a bydd unrhyw weithgareddau arloesi am ddim yn cael eu cefnogi drwy’r Gefnogaeth Arloesedd Hyblyg SMART

Yn cefnogi tri maes o weithgarwch

  • Ymchwil, Datblygu ac Arloesi yr Economi Gylchol
  • Pontio i Economi Gylchol ac/neu
  • Datblygu i economi gylchol

Pwy gaiff ddefnyddio’r cymorth?

  • Busnesau o unrhyw faint
  • Sefydliadau Ymchwil
  • Sefydliadau’r Trydydd Sector
  • Byrddau Iechyd

Faint sydd ar gael?

Dibynnu ar y sefydliad a math o brosiect

  • Enghraifft ar gyfer busnesau:
  • Enghraifft o gyllid o £200 mil y flwyddyn am 2 flynedd
  • Cyfradd Ymyrraeth – 50%

Beth sydd angen ei gyflawni?

Bydd angen i brosiectau ddangos eu bod yn gallu cyflawni un neu fwy o'r canlyniadau canlynol:

  • Mwy o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu, eu hailddefnyddio a'u hailgynhyrchu yn cael eu defnyddio mewn cynnyrch neu brosesau newydd neu bresennol
  • Lleihau allyriadau CO2
  • Lleihau gwastraff
  • Gwell cynhyrchiant 
  • Datblygu a/neu gyflwyno cynhyrchion neu brosesau newydd neu gwell
  • Cael safon BSI/marc barcud perthnasol cydnabyddedig

Camau nesafl

  • Cysylltwch â ni: Yn sgil lefel y diddordeb mewn Cymorth Arloesi Hyblyg SMART mae’n cymryd hirach nag arfer i ymateb i ymholiadau. Bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.