Mae gwasanaeth ar-lein newydd, a fydd yn paru cyflogwyr â cheiswyr gwaith sy’n chwilio am waith ym maes amaethyddiaeth, y tir a milfeddygaeth yn ystod y pandemig COVID-19, wedi’i lansio.
Yn ystod y pandemig coronafeirws, mae’n hollbwysig bod busnesau gwledig a’r tir – gan gynnwys ffermydd a busnesau â rhwymedigaethau lles anifeiliaid – yn gallu cael gafael ar weithwyr allweddol a pharhau i weithredu.
Mae LANTRA yn creu gwasanaeth paru sgiliau a fydd yn rhoi busnesau a darpar weithwyr cyflogedig â sgiliau a phrofiad perthnasol mewn cysylltiad â’i gilydd.
Mae ymgeiswyr yn cael eu hidlo trwy baru eu sgiliau allweddol â’r rhai sydd eu hangen ar y busnesau, a fydd yn ei gwneud hi’n haws i gyflogwyr a gweithwyr cyflogedig ddod o hyd i’w gilydd.
I ymuno â’r gwasanaeth paru sgiliau, cliciwch ar un o’r dolenni canlynol:
- Rwy’n chwilio am waith neu ar ffyrlo ac mae gen i sgiliau a phrofiad perthnasol
- Rwy’n gyflogwr sy’n chwilio am staff â sgiliau a phrofiad perthnasol
I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan LANTRA.