Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wybodaeth ar wefan Busnes Cymru a rhannau cymorth busnes arbenigol cysylltiedig o’r wefan.
Mae gan bob gwasanaeth arbenigol ei dudalen hygyrchedd ei hun. Mae’n amlinellu pa mor hygyrch yw’r gwasanaeth, sut i roi gwybod am broblemau a sut i ofyn am wybodaeth mewn fformat gwahanol. Gallwch gyrraedd y tudalennau hyn o’r troedyn y tu mewn i dudalennau gwe’r gwasanaeth unigol.
Defnyddio’r wefan hon
Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan Fusnes Cymru. Rydym eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo hyd at 400% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Hefyd, rydym wedi gwneud testun y wefan mor syml a chlir â phosibl i’w ddeall.
Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.
Hygyrchedd y wefan hon
Rydym yn gwybod bod rhai rhannau o’r wefan hon nad ydynt yn gwbl hygyrch:
- nid yw rhai tudalennau a dogfennau atodedig wedi’u hysgrifennu’n glir
- ni fydd hyperddolenni’n ail-lifo’n uwch na 300%
- nid oes penawdau ar gyfer rhesi mewn rhai tablau
- nid yw rhai elfennau pennawd yn gyson
- nid yw teitlau rhai tudalennau’n unigryw
- nid yw labeli rhai ffurflenni’n unigryw
- nid oes testun amgen da ar gyfer rhai delweddau
- nid yw testun rhai dolenni’n disgrifio diben y ddolen
- mae llawer o ddogfennau mwn fformat PDF ac nid ydynt yn hygyrch
Gwasanaethau arbenigol Busnes Cymru
Mae gan bob gwasanaeth arbenigol ei dudalen hygyrchedd ei hun, sy’n cynnwys manylion am ba mor hygyrch yw’r gwasanaeth, sut i roi gwybod am broblemau a sut i ofyn am wybodaeth mewn fformat gwahanol. Gallwch gyrraedd y tudalennau hyn o’r troedyn y tu mewn i dudalennau gwe’r gwasanaeth unigol.
Gofyn am wybodaeth mewn fformat gwahanol
Os oes arnoch angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel testun plaen, Braille, Iaith Arwyddion Prydain, print bras, hawdd ei ddeall neu recordiad sain:
- e-bostiwch: businesssupport@gov.wales
- ffoniwch: 03000 6 03000
Bydd angen i chi ddweud wrthym:
- cyfeiriad gwe (URL) y wybodaeth y mae arnoch ei hangen
- eich cyfeiriad e-bost a’ch enw
- y fformat yr hoffech ei dderbyn – er enghraifft, testun plaen, Braille, Iaith Arwyddion Prydain, print bras neu gryno ddisg sain
- pa dechnolegau cynorthwyol rydych yn eu defnyddio
Gallwch ofyn am PDF mewn fformat hygyrch o’r dudalen hon. Cliciwch ar ‘Gofyn am fformat hygyrch’ i gysylltu â’r sefydliad a gyhoeddodd y ddogfen.
Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â ni trwy un o’r ffyrdd isod:
- e-bostiwch: businesssupport@gov.wales
- ffoniwch: 03000 6 03000
Bydd angen i chi ddweud wrthym:
- cyfeiriad gwe (URL) y dudalen nad ydych yn credu ei bod yn bodloni gofynion hygyrchedd
- pam yr ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd
Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith.
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n hapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltu â ni ar y ffôn neu ymweld â ni’n bersonol
Mae Ofcom yn ei gwneud yn ofynnol i bob cwmni ffonau llinell dir a symudol ddarparu nifer o wasanaethau i gwsmeriaid ag anableddau. Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth cyfnewid testun o’ch dewis i gysylltu â Busnes Cymru.
Mae system dolen glywed yn ein swyddfeydd, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad, byddwn yn gwneud pob ymdrech i drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain. Cysylltwch â ni trwy un o’r ffyrdd isod:
- e-bostiwch: businesssupport@gov.wales
- ffoniwch: 03000 6 03000
Bydd angen i chi ddweud wrthym:
- pwy ydych chi
- sut gallwn eich helpu
Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Busnes Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfedd
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2, o ganlyniad i’r achosion o beidio â chydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol: Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd.
Cyflwynir rhai graffiau fel delweddau PNG yn hytrach na delweddau gweledol. Er bod disgrifiadau o gynnwys y graffiau yn cael eu darparu, nid yw hyn cystal â delweddau gweledol gwirioneddol i ddefnyddwyr sy'n dibynnu ar ddarllenwyr sgrîn. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.2 Lefel A 1.1.1 a Lefel AA 1.4.5. Rydym yn bwriadu cywiro hyn erbyn Mehefin 2025.
Mae rhywfaint o destun amgen yn cynnwys dalfannau fel ‘llun’ neu ‘wahanydd’. Nid yw hyn yn cyfleu union gynnwys neu swyddogaeth y ddelwedd, sy’n golygu ei bod yn llai defnyddiol i ddefnyddwyr sy’n dibynnu ar raglenni darllen sgrin. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 1.1.1 a 1.2.1 F30. Fe wnaethom ddatrys pob enghraifft hysbys o’r mater hwn ym mis Chwefror 2024.
Mae rhai ffigurau a delweddau mewn dogfennau PDF yn cynnwys testun amgen gwag. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 1.1.1 F65. Fe wnaethom ddatrys pob enghraifft hysbys o’r mater hwn ym mis Chwefror 2024.
Mae rhai dogfennau Word yn cynnwys graffig heb destun amgen. Mae testun amgen yn ofynnol i gyfleu’r wybodaeth neu ddiben y ddelwedd i unigolion sy’n defnyddio rhaglenni darllen sgrin. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 1.1.1. Fe wnaethom ddatrys pob enghraifft hysbys o’r mater hwn ym mis Chwefror 2024.
Nid oes gan rai elfennau o ddelweddau enw hygyrch. Heb enw hygyrch, gallai defnyddwyr rhaglenni darllen sgrin gael trafferth deall ystyr neu swyddogaeth delwedd ar dudalen we. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 1.1.1 F65. Fe wnaethom ddatrys pob enghraifft hysbys o’r mater hwn ym mis Chwefror 2024.
Nid yw rhai dogfennau PDF wedi’u tagio, sy’n eu hatal rhag bod yn hygyrch i raglenni darllen sgrin. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 22 A 1.3.1. Fe wnaethom ddatrys pob enghraifft hysbys o’r mater hwn ym mis Chwefror 2024.
Mae rhai dogfennau Word yn cynnwys graffig neu wrthrych nad yw’n fewnlinol. Mae’n bosibl na fydd graffigau neu wrthrychau nad ydynt yn fewnlinol yn addasu’n dda i wahanol feintiau sgrin neu ddewisiadau defnyddwyr. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 1.3.2. Fe wnaethom ddatrys pob enghraifft hysbys o’r mater hwn ym mis Chwefror 2024.
Mae teitlau rhai dogfennau’n wag neu ar goll. Mae teitl yn hanfodol ar gyfer llywio a threfniadaeth i bobl sydd ag anableddau gwybyddol neu sy’n dibynnu ar raglenni darllen sgrin. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 2.4.2 F25. Fe wnaethom ddatrys pob enghraifft hysbys o’r mater hwn ym mis Chwefror 2024.
Mae rhai dolenni’n defnyddio testun cyffredinol fel ‘Cliciwch yma’ heb destun o’i amgylch i esbonio diben y ddolen. Fe allai hyn effeithio ar ddefnyddwyr sy’n defnyddio rhaglenni darllen sgrin oherwydd efallai byddant yn cyhoeddi gwybodaeth anghynorthwyol fel “cliciwch yma”, nad yw’n cyfleu diben na chyrchfan y ddolen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 2.4.4 F63. Fe wnaethom ddatrys pob enghraifft hysbys o’r mater hwn ym mis Chwefror 2024.
Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Nid yw’r technolegau a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol: Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd.
Mae rhai tudalennau’n cynnwys lliwiau testun a chefndir nad oes ganddynt ddigon o gyferbynnedd. Mae hyn yn effeithio ar bobl ag amhariad ar y golwg. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 AA 1.4.3. Fe wnaethom ddatrys pob enghraifft hysbys o’r mater hwn ym mis Chwefror 2024.
Mae angen diwygio rhai tudalennau i sicrhau bod y defnyddiwr yn gallu adnabod penawdau rhesi a cholofnau mewn tablau data gan ddefnyddio elfennau <th>, a marcio gosodiad tablau gan ddefnyddio rôl=cyflwyniad. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 1.3.1 F91. Fe wnaethom ddatrys pob enghraifft hysbys o’r mater hwn ym mis Chwefror 2024.
Nid yw rhai tudalennau sy’n cynnwys tablau data â dwy lefel resymegol neu fwy o benawdau rhesi neu golofnau, yn defnyddio iaith farcio i gysylltu celloedd data a chelloedd penawdau. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 1.3.1. Fe wnaethom ddatrys pob enghraifft hysbys o’r mater hwn ym mis Chwefror 2024.
Offer rhyngweithiol a thrafodion
Nid oes unrhyw offer a thrafodion rhyngweithiol anhygyrch hysbys ar Busnes Cymru. Os ydych chi'n credu nad yw rhai o'n hoffer a'n trafodion Rhyngweithiol yn hygyrch. Cysylltwch â ni ar un o'r ffyrdd isod:
- E-bost: businesssupport@gov.wales
- Ffôn: 03000 6 03000
Bydd angen i chi ddweud wrthym:
- cyfeiriad gwe (URL) y dudalen rydych chi'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd
- pam nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd
Byddwn yn adolygu eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 7 diwrnod gwaith.
Dogfennau PDF a dogfennau eraill
Dylai dogfennau newydd a gyhoeddwn i gael at ein gwasanaethau fod yn gwbl hygyrch.
Fodd bynnag, rydym yn gwybod nad yw rhai o’n dogfennau hŷn (a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018) yn hygyrch. Er enghraifft, mae rhai ohonynt:
- heb eu marcio mewn ffordd sy’n caniatáu i ddefnyddwyr rhaglen darllen sgrin eu deall
- heb eu tagio’n gywir, er enghraifft nid ydynt yn cynnwys penawdau priodol
- heb eu hysgrifennu mewn iaith glir
Dogfennau hanesyddol yw rhai o’r rhain nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Mae dogfennau o’r math hwn wedi’u heithrio o’r rheoliadau. Nid ydym yn bwriadu eu gwneud yn hygyrch ar hyn o bryd.
Os oes arnoch angen y wybodaeth yn un o’r dogfennau hyn, cysylltwch â ni trwy un o’r ffyrdd isod a gofynnwch am fformat gwahanol.
- e-bostiwch: businesssupport@gov.wales
- ffoniwch: 03000 6 03000
Bydd angen i chi ddweud wrthym:
- cyfeiriad gwe (URL) y wybodaeth y mae arnoch ei hangen
- y fformat yr hoffech ei dderbyn
- pa dechnolegau cynorthwyol rydych yn eu defnyddio
Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 8 Ionawr 2024 i ddisodli’r datganiad hygyrchedd blaenorol. Adolygwyd y datganiad ddiwethaf ar 11 Mehefin 2024.
Sut aethom ati i brofi’r wefan
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 15 Rhagfyr 2023. Cynhaliwyd y prawf gan S8080.
Ar 15 Rhagfyr 2023, defnyddiodd S8080 SortSite Desktop i sganio dros 8700 o’n tudalennau i weld a oeddent yn cydymffurfio â lefel A ac AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We Fersiwn 2.2. Roedd y sgan yn cynnwys cyfuniad o dudalennau craidd, templedi a ddefnyddir yn gyffredin a thempledi cymhleth.
Profwyd platfform ein prif wefan, sydd ar gael yn https://businesswales.gov.wales/
Yn ogystal â rhai o’n gwasanaethau arbenigol a reolir gan dîm Busnes Cymru, gan gynnwys: