Bydd gan weithwyr ar ffyrlo sy’n bwriadu cymryd absenoldeb rhiant neu fabwysiadu â thâl hawl i dâl yn seiliedig ar eu henillion arferol yn hytrach na’r gyfradd ffyrlo.
Mae hyn yn golygu:
- bydd tâl ar gyfer gweithwyr ar ffyrlo sy’n cymryd absenoldeb am resymau teuluol yn cael ei gyfrifo ar sail enillion arferol yn hytrach na thâl ffyrlo
- bydd enillion llawn yn gymwys i Dâl Mamolaeth, Tâl Tadolaeth, Tâl Rhiant a Rennir, Tâl Profedigaeth i Rieni a Thâl Mabwysiadu.
- nid yw gweithwyr sydd ar fin cymryd absenoldeb am resymau teuluol yn cael eu cosbi drwy fod ar ffyrlo
Bydd yr offeryn statudol a gyflwynwyd gerbron y Senedd ar 24 Ebrill 2020 yn sicrhau y bydd gweithwyr y mae eu cyfnod o dâl am resymau teuluol yn dechrau ar neu ar ôl 25 Ebrill 2020 yn cael eu hasesu ar eu tâl llawn arferol.
Bydd y newidiadau yn sicrhau na fydd y rhai sy’n bwriadu cymryd amser i ffwrdd yn gweld gostyngiad yn eu tâl yn sgil cael eu rhoi ar ffyrlo oherwydd effeithiau COVID-19.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.