Y wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi cyn gwneud hawliad.
Bydd angen y canlynol arnoch chi:
- rhif adnabod a chyfrinair Porth y Llywodraeth (GG) – os nad oes gennych chi gyfrif GG, gallwch chi wneud cais am un ar-lein neu fynd i GOV.UK a chwilio am 'HMRC services: sign in or register'
- wedi cofrestru ar gyfer PAYE ar-lein – os nad ydych chi wedi cofrestru, gallwch chi wneud hynny nawr neu trwy fynd i GOV.UK a chwilio am 'PAYE Online for employers'
- y wybodaeth ganlynol am bob gweithiwr cyflogedig ar ffyrlo y byddwch chi’n hawlio ar ei gyfer:
- Enw.
- Rhif Yswiriant Gwladol.
- Cyfnod yr hawliad a swm yr hawliad.
- Rhif PAYE/gweithiwr cyflogedig (dewisol).
- os oes gennych chi lai na 100 o staff ar ffyrlo – bydd angen i chi fewnbynnu gwybodaeth yn uniongyrchol i’r system ar gyfer pob gweithiwr cyflogedig
- os oes gennych chi 100 neu fwy o staff ar ffyrlo – bydd angen i chi lanlwytho ffeil gyda gwybodaeth ar gyfer pob gweithiwr cyflogedig; byddwn yn derbyn y mathau canlynol o ffeil: .xls .xlsx .csv .ods.
Os ydych chi eisiau i asiant weithredu ar eich rhan
Noder y canlynol:
- gall asiantau a awdurdodir i weithredu ar eich rhan mewn perthynas â materion PAYE wneud yr hawliad ar eich rhan gan ddefnyddio eu rhif adnabod a’u cyfrinair
- bydd angen i chi ddweud wrth eich asiant i ba gyfrif banc yn y DU rydych chi eisiau i’r grant gael ei dalu er mwyn sicrhau bod yr arian yn cael ei dalu i chi cyn gynted â phosibl.
Dylech chi gadw pob cofnod a chyfrifiad mewn perthynas â’ch hawliadau.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK