BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad a'r Bil Rhentwyr (Diwygio)

row of houses in Caernarfon

Julie James, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio.

Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i'r Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad ar 24 Mai 2024.

Mae'r Ddeddf yn cyflwyno gwelliannau sylweddol i'r gyfraith a hawliau newydd pwysig i berchnogion tai yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Estyn cyfnod lesoedd safonol tai a fflatiau i 990 o flynyddoedd (i fyny o 90 o flynyddoedd ar gyfer fflatiau a 50 o flynyddoedd ar gyfer tai), a gostwng rhent tir i rent hedyn pupur (gwerth ariannol o sero) ar ôl talu premiwm.
  • Cyflwyno hawl newydd i ddileu rhent tir o les bresennol heb estyn ei chyfnod, ar ôl talu premiwm.
  • Dileu'r hyn a elwir yn ‘werth cyfunol’ a ddefnyddir wrth gyfrifo'r premiwm sy'n daladwy i estyn neu brynu les.
  • Dileu'r gofyniad y dylai lesddeiliad fod wedi bod yn berchen ar ei dŷ neu ei fflat am ddwy flynedd cyn y caiff estyn neu brynu les.
  • Cynyddu'r terfyn ‘amhreswyl’ o 25% sy'n gymwys i eiddo defnydd cymysg, ac a all atal lesddeiliaid mewn adeiladau lle ceir cymysgedd o gartrefi a defnyddiau eraill fel siopau a swyddfeydd, rhag prynu eu rhydd-ddaliad neu gymryd rheolaeth dros eu hadeiladau.
  • Gwahardd defnyddio lesddaliad ar gyfer y rhan fwyaf o dai newydd.
  • Gofyn am dryloywder ynglŷn â thaliadau gwasanaeth lesddeiliaid.
  • Cyflwyno ffioedd gweinyddu tryloyw yn lle comisiynau yswiriant adeiladau i asiantiaid rheoli a landlordiaid.
  • Dileu'r rhagdybiaeth bod rhaid i lesddeiliaid dalu costau cyfreithiol eu landlordiaid wrth herio arferion gwael.
  • Pennu uchafswm o ran ffi ac amser ar gyfer darparu gwybodaeth sy'n ofynnol i gefnogi gwerthu eiddo lesddaliadol neu eiddo rhydd-ddaliadol sy'n ddarostyngedig i gostau rheoli ystad, er mwyn gwerthu eiddo o'r fath yn gyflymach.
  • Rhoi'r un hawliau estynedig ynghylch gwneud iawn i berchnogion rhydd-ddaliadol ar ystadau preifat a deiliadaeth gymysg ag i lesddeiliaid, gan gynnwys yr hawl i wneud cais i'r tribiwnlys i benodi rheolwr yn lle rheolwr taliadau ystad.

I ddarllen y datganiad llawn, dewiswch y ddolen ganlynol: Datganiad Ysgrifenedig: Y Bil Diwygio Lesddaliadau a Rhydd-ddaliadau (28 Tachwedd 2023) | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.