Mae cyfraith caffael cyhoeddus yn newid yn dilyn cyflwyno Deddf Caffael 2023 a'r Rheoliadau cysylltiedig newydd y bwriedir iddynt fod yn weithredol ar 24 Chwefror 2025.
Os ydych yn fusnes sy'n cyflenwi nwyddau, gwaith neu wasanaethau i'r sector cyhoeddus yng Nghymru, mae angen i chi wybod am y newidiadau hyn a'n cynlluniau i baratoi rhanddeiliaid i'w rhoi ar waith.
Bydd y darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth yn trawsnewid y ffordd y mae awdurdodau contractio Cymru yn prynu nwyddau, gwasanaethau a gwaith, gan ddod ag ystod o fuddion i gyflenwyr, gan gynnwys:
- Platfform digidol canolog
- Gwelededd cynlluniau caffael
- Prosesau symlach ar gyfer cyflwyno cynigion
- Gweithdrefnau hyblyg
- Fframweithiau masnachol hyblyg
- Dyletswydd i ystyried BBaChau
- Talu'n brydlon
Bydd y newidiadau hyn yn ysgogi arloesedd, yn cyflawni canlyniadau gwell ac yn ymgorffori tryloywder drwy gydol y cylch oes masnachol, fel y gall pawb gael mynediad at ddata caffael a gweld sut mae arian cyhoeddus yn cael ei wario.
Er nad yw'r Ddeddf Caffael yn llywodraethu cyflenwyr yn uniongyrchol mewn gwirionedd, ei nod yw ei gwneud yn haws i chi wneud busnes gyda'r sectorau cyhoeddus a chyfleustodau, felly mae angen i chi ddeall beth mae'n ei olygu i'ch sefydliad.
Cliciwch ar y doleni ganlynol i gael rhagor o wybodaeth:
- Deddf Caffael 2023 a Rheoliadau Cysylltiedig: Canllaw byr i gyflenwyr [HTML] | LLYW.CYMRU
- Caffael yn y sector cyhoeddus | Is-bwnc | LLYW.CYMRU
GwerthwchiGymru - gwerthu i'r sector cyhoeddus
Mae'n bosibl y bydd cyfleoedd i'ch busnes ddarparu nwyddau, gwaith neu wasanaethau i'r sector cyhoeddus, naill ai trwy gontract uniongyrchol neu drwy ddod yn is-gontractwr: GwerthwchiGymru - gwerthu i'r sector cyhoeddus | Busnes Cymru (gov.wales)