A yw’ch busnes yn barod ar gyfer grym AI? A yw’r holl sôn am ddeallusrwydd artiffisial yn eich drysu’n llwyr? Neu a ydych chi’n gweld y manteision i’ch cwmni ond ddim yn gwybod ble i ddechrau?
Dewch i ddigwyddiad Demystifying AI: Chatbots and Large Language Models (LLMs)', a byddwch yn:
- Dysgu am alluoedd sylfaenol y Sgwrsfotiau a’r Modelau Iaith Mawr diweddaraf, sut maen nhw'n gweithio, a'u heffaith bosibl ar gyfer busnesau.
- Deall beth yw’r gwahaniaethau rhwng modelau iaith mawr caeedig (fel ChatGPT) a rhai agored, yn ogystal â dysgu am eu manteision a’u hanfanteision.
- Trafod y materion cyfreithiol, cymdeithasol, moesegol a phroffesiynol sy'n ymwneud â Sgwrsfotiau a Modelau Iaith Mawr.
- Clywed am lwyddiant busnesau eraill, a hynny o amrywiaeth o wahanol ddiwydiannau, a dysgu am yr holl ffyrdd gwahanol y gellir defnyddio Modelau Iaith Mawr a Sgwrsfotiau.
Bydd y digwyddiad rhad-ac-am-ddim hwn yn cael ei gynnal yn Sbarc, Caerdydd CF24 4HQ ar 22 Hydref 2024.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i archebu eich lle: Demystifying AI: Chatbots and Large Language Models yn Sbarc