Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar ei gweledigaeth ar gyfer y sector diwylliant rhwng 2024 a 2030.
Bydd y Blaenoriaethau drafft ar gyfer Diwylliant: 2024 i 2030 yn canolbwyntio ar 3 peth:
- Mae Diwylliant yn Dod â Ni Ynghyd
- Cenedl Diwylliant
- Mae Diwylliant yn Gydnerth ac yn Gynaliadwy
I gefnogi'r blaenoriaethau hyn, mae gennym ugain uchelgais sy'n cynnwys sicrhau bod diwylliant yn hygyrch i bawb yng Nghymru, meithrin cysylltiadau trwy ddiwylliant yma yng Nghymru a thramor a helpu'r sector i ffynnu nawr ac yn y dyfodol.
Mae'r blaenoriaethau drafft yn berthnasol i'r sector diwylliant cyfan yng Nghymru, o sefydliadau cenedlaethol i brosiectau llawr gwlad. Mae pob un yn cyfrannu at ein bywyd diwylliannol cyfoethog. Mae'r ymgynghoriad yn berthnasol hefyd i bob sefydliad sector cyhoeddus arall sy'n gwireddu nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru o Ddiwylliant Bywiog a Chymraeg sy'n Ffynnu.
Mae'r ymgynghoriad Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant wedi agor a bydd yn cau ddydd Mercher 4 Medi: