Mae Enterprise Nation a VistaPrint wedi dod ynghyd i ddarparu grantiau arian parod gwerth £60,000 i gymuned busnesau bach y DU i'w helpu i wireddu eu huchelgeisiau.
Bydd ugain o fusnesau bach yn derbyn £3,000 yr un, yn ogystal â:
- thanysgrifiad am ddim am 12 mis i VistaCreate Pro, meddalwedd dylunio graffig Vista
- £500 mewn credydau i'w gwario ar wefan VistaPrint yn y DU
- mynediad i 99designs gan Vista silver logo a phecyn canllaw brand (neu gyfwerth)
I fod yn gymwys i wneud cais, rhaid i'ch busnes:
- fod wedi'i leoli yn y DU a bod gennych gyfrif banc busnes yn y DU
- bod yn fusnes cofrestredig neu wedi'ch cofrestru fel hunangyflogedig gyda phrawf o Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)
- heb fod â mwy na 10 o weithwyr
- wedi bod yn masnachu am o leiaf 3 mis
- peidio â bod yn destun ansolfedd, archwiliaeth (examinership), derbynyddiad neu unrhyw broses gysylltiedig neu debyg, ac
- os gofynnir am hyn, bod yn barod i rannu’r stori lwyddiant o sut y defnyddiodd ei grant arian parod (gall VistaPrint ddefnyddio a / neu gyhoeddi'r manylion hyn ymhellach at wahanol ddibenion megis marchnata, hysbysebu a chysylltiadau cyhoeddus)
Ceisiadau'n cau am 23:59 ar 31 Hydref 2024.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais: Realising the Remarkable | Cash grants for small businesses | Enterprise Nation