Trefnir Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl gan y Sefydliad Iechyd Meddwl a bydd yn digwydd rhwng 18 a 23 Mai 2020.
Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yw wythnos cenedlaethol y DU i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a phroblemau iechyd meddwl ac mae’n ffordd o ysgogi pobl i weithredu er mwyn hyrwyddo’r neges bod iechyd meddwl yn bwysig i bawb.
Mae ysgolion, busnesau a grwpiau cymunedol yn cynnal digwyddiadau drwy gydol yr wythnos i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Sefydliad Iechyd Meddwl.