Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn amser delfrydol i bawb ohonom ystyried iechyd meddwl, a mynd i’r afael â stigma, a darganfod sut y gallwn greu cymdeithas sy’n atal problemau iechyd meddwl rhag datblygu ac sy’n diogelu ein llesiant meddyliol.
Bydd Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2024 yn cael ei chynnal rhwng 13 a 19 Mai.
Thema eleni yw ‘Symud: Symud mwy ar gyfer ein hiechyd meddwl’. Mae bod yn egnïol yn bwysig i’n hiechyd meddwl. Ond i gymaint ohonom, mae’n anodd cael digon o ymarfer corff. Mae llawer o resymau gwahanol am hyn, felly yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, rydym eisiau helpu pobl i gynnwys eiliadau ar gyfer symud yn eu harferion dyddiol. Gallwch fynd am dro yn eich cymdogaeth, chwarae eich hoff gerddoriaeth a dawnsio o amgylch yr ystafell fyw, neu wneud ymarferion cadair pan fyddwch chi’n gwylio’r teledu – mae’r cyfan yn cyfrif!
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Mental Health Awareness Week | Mental Health Foundation
Ydych chi’n trafod iechyd meddwl yn y gwaith?
Nid yw erioed wedi bod yn bwysicach i dalu sylw i iechyd meddwl yn y gweithle. I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl | Busnes Cymru (gov.wales)