Mae Fframwaith Windsor yn gosod trefniadau newydd ar gyfer symud nwyddau, fel parseli a llwythi, rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.
Roedd y trefniadau newydd ar gyfer symud parseli a llwythi i fod i ddod i rym ar 30 Medi 2024, ond ni fydd yn digwydd ar y dyddiad hwn bellach. Bydd gwybodaeth fanwl am amserlen cyflwyno’r trefniadau newydd yn cael eu cyhoeddi maes o law, a dylai busnesau fod yn barod ar eu cyfer erbyn 31 Mawrth 2025.
Dros y misoedd nesaf, bydd CThEF yn cefnogi busnesau gan sicrhau eu bod yn barod ar gyfer cyflwyno’r trefniadau newydd hyn yn 2025. Bydd hyn yn cynnwys gweminarau, gan gynnwys rhai penodol ar gyfer busnesau sy'n trin parseli, a chymorth parhaus drwy’r Gwasanaeth Cymorth i Fasnachwyr (TSS) ar gyfer cludo llwythi Bydd y TSS yn parhau i fod ar gael trwy gydol 2025 er mwyn eich cefnogi wrth i chi drosglwyddo i drefniadau newydd Fframwaith Windsor. Am ragor o wybodaeth ewch i GOV.UK.
Allforio
Waeth beth fo’ch busnes yn ei gynnig, boed yn wasanaethau, yn drwyddedau neu’n nwyddau, gall allforio drawsnewid bron i bob agwedd arno.
Ar wahân i’r manteision amlwg o gynyddu gwerthiant a chreu mwy o elw, mae masnachu rhyngwladol hefyd yn cynnig ffyrdd i chi achub y blaen ar eich cystadleuwyr. Dysgwch fwy trwy fynd i’n Hyb Allforio.