BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cyfarwyddyd, Document

Beth yw y bwlch cyflog? - Taflen ffeithiau

Mae bylchau cyflog ar sail rhyw, ethnigrwydd ac anabledd yn cyfeirio at y gwahaniaethau mewn cyflog fesul awr ar gyfartaledd rhwng gwahanol grwpiau o bobl yn y gweithle. O dan ddeddfwriaeth y DU, rhaid i gwmnïau sydd â 250 neu fwy o weithwyr gofnodi ac adrodd ar eu bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn flynyddol. Gall busnesau eraill benderfynu adrodd yn wirfoddol ar eu bylchau cyflog rhwng y rhywiau a bylchau cyflog eraill fel arfer da. Mae achosion bylchau cyflog yn lluosog ac yn gymhleth, ond mae camau ymarferol y gall busnesau eu cymryd i leihau’r bylchau, tra ar yr un pryd yn hyrwyddo mwy o amrywiaeth a chynhwysiant er budd staff a chyflogwyr.

Cyhoeddwyd gyntaf: 15 Ebrill 2024
Diweddarwyd diwethaf: 15 Ebrill 2024
Lawrlwytho'r ddogfen: 22.75 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.

Pam fod cau'r bwlch cyflog yn bwysig i fusnes?

Gall cau bylchau cyflog yn eich gweithlu fod o fudd i fusnes mewn amrywiaeth eang o ffyrdd:

1. Nifer gwell o weithwyr yn aros gyda’r cwmni

Pan fydd gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu talu’n deg, maent yn fwy tebygol o aros gyda’r cwmni yn yr hirdymor. Mae hyn yn lleihau cost cyflogi a hyfforddi staff newydd, a all fod yn gost sylweddol i fusnesau bach.

2. Cynnydd mewn cynhyrchiant

Pan fydd gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u digolledu’n deg, maent yn fwy tebygol o fod yn llawn cymhelliant a chynhyrchiol. Gall hyn arwain at fwy o gynhyrchiant a phroffidioldeb i’r busnes.

3. Gwell enw da

Mae cwmnïau sy’n adnabyddus am drin eu gweithwyr yn deg yn fwy tebygol o ddenu’r dalent orau a chwsmeriaid ffyddlon. Mae ymchwil yn dangos yn gyson bod pobl eisiau teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi yn y gwaith a gweithio i gyflogwyr sydd â delwedd gyffredinol ag enw da ac sy’n dilyn arferion cyflogaeth foesegol.

4. Llai o risg gyfreithiol

Gall methu â mynd i’r afael â bylchau cyflog adael busnesau yn agored i gamau cyfreithiol gan weithwyr sy’n teimlo eu bod wedi dioddef gwahaniaethu. Gall hyn fod yn gostus ac yn niweidiol i enw da’r busnes.

5. Gwell amrywiaeth a chynhwysiant

Gall mynd i’r afael â bylchau cyflog helpu i greu gweithle mwy amrywiol a chynhwysol, a all ddod ag ystod o fanteision, gan gynnwys mwy o greadigrwydd, arloesi a galluoedd datrys problemau.

Felly, beth all cyflogwyr ei wneud i gofnodi a lleihau bylchau cyflog?

Cyflwyno neu ehangu adroddiadau Bwlch Cyflog fel rhan o strategaeth EDI (Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant) effeithiol

Ymrwymo i fesur, olrhain ac adrodd a chau unrhyw fylchau cyflog ar sail rhyw, hil ac anabledd a all fodoli yn eich busnes. Hefyd, casglu data i olrhain amrywiaeth eich gweithlu, ac ymrwymo i fynd i’r afael â thangynrychiolaeth ar draws y nodweddion gwarchodedig ar bob lefel o’r sefydliad.

Dylai eich strategaeth EDI fynd y tu hwnt i gydymffurfiaeth gyfreithiol a dylai geisio ychwanegu gwerth at eich sefydliad trwy gyfrannu at ganlyniadau lles a chydraddoldeb i bob gweithiwr. Dylid datblygu’r strategaeth gan ddefnyddio profiadau staff ymylol a dylai fynd i’r afael ag ystod eang o nodweddion a phrofiadau personol gan gynnwys acen, oedran, cyfrifoldebau gofalu, lliw, diwylliant, anableddau gweladwy ac anweledig, hunaniaeth a mynegiant rhywedd, iechyd meddwl, niwroamrywiaeth, ymddangosiad corfforol, barn wleidyddol, beichiogrwydd a statws mamolaeth/tadolaeth a theulu ac amgylchiadau economaidd-gymdeithasol.

Sicrhau eich bod yn talu o leiaf y cyflog byw gwirioneddol (RLW) i bob gweithiwr

Mae pobl ledled Cymru yn wynebu heriau gwirioneddol ar hyn o bryd o ran costau byw, gan ei gwneud yn bwysicach nag erioed i gyflogwyr ymrwymo i’r Cyflog Byw Gwirioneddol.

Rydym yn deall bod busnesau yn wynebu pwysau ariannol enfawr hefyd, felly efallai nad yw ymrwymo i wariant ychwanegol ar gyflogau staff yn ymddangos yn ymarferol. Ond nid yn unig y bydd codi cyflog i’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau eich gweithwyr, gall hefyd helpu i ddenu a chadw staff talentog, gan arbed arian i’ch busnes yn yr hirdymor.

Ble gallaf ddod o hyd i gyngor ac adnoddau i gyflogwyr?

Mae gweithio i leihau bylchau cyflog yn un rhan o ddod yn gyflogwr Gwaith Teg. Yng Nghymru, diffinnir gwaith teg fel cyflogaeth sy’n bodloni’r chwe egwyddor hyn:

  • Gwobrwyo eich gweithwyr yn deg
  • Sicrhau bod lleisiau eich gweithwyr yn cael eu clywed
  • Sicrhau diogelwch a hyblygrwydd ar gyfer eich gweithlu
  • Rhoi cyfleoedd i’ch gweithwyr gael mynediad, datblygiad a dilyniant
  • Creu amgylchedd gwaith diogel, iach a chynhwysol
  • Parchu hawliau cyfreithiol eich gweithwyr

Mae yna gyfoeth o offer ar-lein i’ch helpu chi i roi’r egwyddorion hyn ar waith ar draws eich sefydliad ond rydym ni’n gwybod y gall llywio’ch ffordd trwy’r holl wybodaeth fod yn her felly edrychwch ar ein canllawiau llawn am awgrymiadau, cyngor a dolenni i adnoddau rhad ac am ddim

Lawrlwytho'r ddogfen: 22.75 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.