BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Astudiaeth Achos, Document

Gwobrwyo teg - Beth mae'r arbenigwyr yn ei ddweud

Mae gan Harry Thompson, Cynnal Cymru gyngor ar sut i fabwysiadu Gwobrwyo Teg yn y gweithle.

Cyhoeddwyd gyntaf: 17 Ebrill 2024
Diweddarwyd diwethaf: 17 Ebrill 2024
Lawrlwytho'r ddogfen: 21.39 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.

Mae rhai cyflogwyr eisoes yn talu’r Cyflog Byw gwirioneddol ac eisiau cael eu cydnabod amdano ac eraill yn cysylltu eisiau gwybod sut i ddechrau ar eu taith tuag at ei dalu. Mae’r mudiad Cyflog Byw gwirioneddol yng Nghymru eisoes wedi gweld bron i 20,000 o gyflogeion yn cael ‘cynnydd’ i’r Cyflog Byw gwirioneddol.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, mae nifer y busnesau achrededig yng Nghymru wedi cynyddu o 400 i 500. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, rydym ni’n ehangu ein gallu i adeiladu ar y llwyddiant hwn a chael mwy o godiadau cyflog i’r rhai sydd fwyaf eu hangen, a gall busnesau sy’n defnyddio elfen Gwobrwyo Teg yr agenda Gwaith Teg helpu.

Yn ddiweddar, ymunais â thîm Cynnal Cymru fel Uwch Arweinydd Rhaglen a Pholisi: Gwaith Teg a’r Economi. Cyn hynny, bûm yn gweithio fel Arweinydd Polisi Economaidd yn y Sefydliad Materion Cymreig. Yn ystod fy amser yno, bûm yn cynnal ymchwil i’n systemau economaidd yng Nghymru, gan gynnwys sut mae economi’r DU yn darparu ar gyfer pobl sy’n ennill incwm isel a chanolig. I fod yn gwbl onest, dyw’reconomi’n gynyddol ddim yn cyflwyno’r ansawdd bywyd rydym ni wedi ymgyfarwyddo ag ef.

Mae’r DU yn disgyn y tu ôl i wledydd tebyg. Yn ôl ymchwil gan y Resolution Foundation, mae incwm cyfartalog y DU ers y 1960au wedi tyfu tua 40% bob 15 mlynedd. Ond yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, gweld twf o ddim ond 12%. Ac mae hyn yn edrych fel problem eithaf unigryw i’r DU. Rhwng 2007 a 2018, fe wnaeth incwm ostwng 2% yn y DU, ond fe dyfodd 27% yn yr Almaen a 34% yn Ffrainc.

Mae incymau nodweddiadol bellach 10% yn is yn y DU nag yn Ffrainc. Ond dydy hynny hyd yn oed ddim yn cyfleu’r darlun llawn. Mae’r incymau uchaf yn y DU 17% yn uwch nag yn Ffrainc.

Ond mae’r incymau ar y gwaelod 20% yn is nag yn G Ond beth yw’r Cyflog Byw gwirioneddol, a beth all ei wneud i fynd i’r afael â’r problemau hyn?

Y llywodraeth sy’n pennu’r ‘Cyflog Byw Cenedlaethol’ ac mae’n berthnasol i bobl 23 oed a hŷn. Nid yw’n gysylltiedig â chostau byw, ond mae targed iddo gyrraedd 66% o’r enillion cyfartalog erbyn 2024. Mae’r Cyflog Byw gwirioneddol yn berthnasol i bawb dros 18 oed ac yn cael ei osod yn hytrach gan gyfrifiad annibynnol ar sail costau byw yn seiliedig ar fasged o nwyddau a gwasanaethau. Gall cynyddu cyflog i’r Cyflog Byw gwirioneddol wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl. Mae’n caniatáu i bobl dreulio mwy o amser gyda’u plant, poeni llai am allu fforddio’r pethau sylfaenol ac yn cynyddu mwynhad pobl o fywyd.

Mae llawer o astudiaethau achos ar wefan y Living Wage Foundation sy’n llawn tystiolaeth am y gwahaniaeth mae wedi’i wneud o ran gwella ansawdd bywyd pobl ledled y DU. Er enghraifft, dywedodd glanhawr sydd bellach yn elwa ar y Cyflog Byw gwirioneddol nad yw bellach mor flinedig oherwydd ei fod yn gallu gweithio llai o oriau a’i fod yn dal i fod â rhywfaint o arian yn weddill ar ddiwedd y mis.  Dywedodd gweithiwr gofal hefyd ei fod yn caniatáu iddo gael mwy o fywyd cymdeithasol, mwy o amser teuluol a’i fod bellach yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi mwy yn y gwaith. Dyma rai o’r straeon mae’r Cyflog Byw wedi’u creu ac erbyn hyn mae miloedd o’r straeon yma ledled Cymru.

Ffrainc oherwydd lefelau anghydraddoldeb uchel y DU. Felly pan ddaeth cyfle i ymuno â thîm gwych Cynnal Cymru, sydd wedi profi llwyddiant sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf wrth fynd i’r afael â chyflogau isel yng Nghymru, fe wnes i fachu ar y cyfle. Rydym ni i gyd yn gwybod ei fod yn dda i fusnes hefyd, gyda 93% o fusnesau achrededig yn dweud eu bod wedi elwa ar yr achrediad. Mae 86% yn dweud ei fod wedi gwella enw da eu busnes ac mae 75% yn dweud ei fod wedi cynyddu cyfraddau cymhelliant a chadw cyflogeion, felly mae pobl a busnesau ar eu hennill.

Fel y gwelwn o’r data, mae defnyddio Gwobrwyo Teg mewn busnesau yn cael effaith gadarnhaol ar bawb sy’n cymryd rhan, ac mae’n hawdd dechrau’r broses ac ennill yr achrediad Cyflog Byw gwirioneddol. Os yw busnesau’n pwyso a mesur bod yn gyflogwr Cyflog Byw gwirioneddol, yna gallan nhw ymweld â gwefan Cyflog Byw Cymru am ragor o wybodaeth a chysylltu â Cynnal Cymru i gael sgwrs am yr achrediad.

Gallwn ddangos i chi pa mor syml y gall fod i gael eich achredu a’ch helpu gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych chi. Mae’n hawdd i’w wneud a bob amser yn werth ei ystyried ymhellach.

Mae twf agenda Gwaith Teg yng Nghymru wedi bod yn ddatblygiad i’w groesawu. Mae gweld ymgyrch Cyflog Byw gwirioneddol yn cael ei gyrru ymlaen gan Lywodraeth Cymru a phartneriaid eraill fel rhan o’r agenda ‘Gwaith Teg’ hwn, drwy’r elfen Gwobrwyo Teg, wedi golygu mwy o fuddsoddiad i ehangu’r Cyflog Byw yng Nghymru. Mae’n dda cael ein hatgoffa hefyd nad talu’r Cyflog Byw gwirioneddol yw diwedd y daith i wella fel cyflogwr. Mae pethau fel cydgynrychiolaeth drwy lais y cyflogai neu gydnabod undebau llafur hefyd yn bwysig iawn. Mae’r agenda Gwaith Teg ar yr un pryd yn cefnogi ehangu’r Cyflog Byw gwirioneddol ledled Cymru ac yn darparu map trywydd i’r holl bethau eraill y gall cyflogwyr eu gwneud i gefnogi’r bobl yn eu busnes. Fel y gwyddom ni i gyd, mae heriau go iawn yn ein hwynebu ar hyn o bryd o ran costau byw ledled y DU. Mae hynny’n gyddestun anodd i weithredu ynddo, ond mae hefyd yn golygu fod bod yn gyflogwr Cyflog Byw gwirioneddol yn bwysicach nag erioed. Mae hefyd yn golygu bod pobl yn ymwybodol o’r heriau sy’n gysylltiedig â chostau byw, a bod marc sy’n dangos eich bod yn gwneud eich rhan yn hwb i enw da busnes.

Rwy’n credu bod dyfodol Cyflog Byw yng Nghymru yn un o’r datblygiadau lle gallwn gyrraedd hyd yn oed mwy o fusnesau a dod yn fwy cysylltiedig ag agenda ehangach Gwaith Teg Llywodraeth Cymru.

Lawrlwytho'r ddogfen: 21.39 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.