BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Astudiaeth Achos, Document

Gwobrwyo teg - pecynnau adnoddau

Pecynnau adnoddau

Cyhoeddwyd gyntaf: 17 Ebrill 2024
Diweddarwyd diwethaf: 17 Ebrill 2024
Lawrlwytho'r ddogfen: 779.07 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.

Sut mae gwobrwyo eich gweithiwr yn deg

Image removed.

Fel cyflogwr, rydych chi’n gwybod mai gwobrwyo gweithwyr yn deg a’u trin ag urddas a pharch yw’r peth iawn i’w wneud. Mae ymchwil wedi dangos yn gyson bod gwaith annheg yn cael effaith niweidiol ar les corfforol a meddyliol gweithwyr. Ond yn ogystal â’r manteision amlwg i’ch gweithwyr, mae rheidrwydd busnes clir hefyd i sefydliadau gyflwyno polisïau Gwobrwyo Teg.

Dyma rai o’r ffyrdd y gall Gwaith Teg fod o fudd i’n heconomi, ein cynhyrchiant a’n perfformiad busnes cyffredinol:

  • Mae gweithlu sy’n cael ei wobrwyo a’i werthfawrogi ac yr ymgysylltir ag ef yn deg yn debygol o arwain at well morâl, dealltwriaeth ac ymrwymiad y gweithlu i’r busnes a’i amcanion.
  • Gall darparu gwaith teg i’ch gweithwyr, gyda chyflog, telerau ac amodau boddhaol helpu eich busnes i recriwtio a chadw gweithwyr talentog a lleihau costau trosiant staff.
  • Mae gweithwyr sy’n cael eu trin yn dda yn y gwaith yn fwy tebygol o fod yn gynhyrchiol ac ymroddedig.
  • Bydd cael eich adnabod fel cyflogwr sy’n talu eich staff yn deg ac sy’n cynnig buddion da yn rhoi hwb i’ch enw da.
  • Bydd gwobrwyo eich gweithwyr yn deg yn lleihau’r tebygolrwydd o dlodi mewn gwaith ac absenoldeb gweithwyr.

Beth allaf ei wneud gel cyflogwr i sirchau bod fy staff yn cael eu gwobrwyo'n deg?

Felly, rydych chi’n deall beth yw Gwobrwyo Teg, ac yn gwybod sut y gallai fod o fudd i’ch busnes a’ch gweithwyr, ond pa gamau allwch chi eu cymryd i’w wireddu yn eich sefydliad?

Dyma rai camau ymarferol i’w hystyried:

Gwnewch yn siŵr eich bod yn talu o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol (CBG) i bob gweithiwr

Mae pobl ledled Cymru yn wynebu heriau go iawn ar hyn o bryd o ran costau byw, sy’n ei gwneud yn bwysicach nag erioed i gyflogwyr ymrwymo i’r Cyflog Byw Gwirioneddol.

Rydym yn deall bod busnesau’n wynebu pwysau ariannol enfawr hefyd, felly efallai na fydd ymrwymo i wario mwy ar gyflogau staff yn ymddangos yn ymarferol. Ond bydd codi cyflogau i lefel y Cyflog Byw Gwirioneddol nid yn unig yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau eich gweithwyr, ond gall hefyd helpu i ddenu a chadw staff talentog, gan arbed arian i’ch busnes yn y tymor hir.

Er bod y ‘Cyflog Byw Cenedlaethol’ a bennwyd gan y llywodraeth yn berthnasol i bobl dros 23 oed a hŷn, ac mae wedi’i bennu fel canran o enillion canolrifol, mae’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn berthnasol i bawb dros 18 oed ac mae’n cael ei bennu gan gyfrifiad annibynnol yn ôl costau byw, yn seiliedig ar fasged o nwyddau a gwasanaethau.

Ar hyn o bryd mae tua 500 o gyflogwyr Cyflog Byw Gwirioneddol yng Nghymru, sy’n cyflogi dros 120,000 o weithwyr1. Fodd bynnag, gyda 223,000 o bobl yng Nghymru yn dal i ennill llai na’r Cyflog Byw Gwirioneddol, mae angen mwy o gyflogwyr arnom i wneud yr un peth.

Ymrwymo i gyflawni achrediad Sylfaenol Cyflog Byw

Os ydych chi eisoes yn talu’r cyflog byw i’ch gweithwyr, gwnewch yn siŵr bod eraill yn gwybod eich bod chi drwy gael achrediad y Sefydliad Cyflog Byw. Mae’r manteision yn amlwg, gyda 93% yn dweud eu bod wedi elwa o achrediad RLW, 86% yn dweud ei fod wedi gwella enw da eu busnes, a 75% yn dweud ei fod wedi cynyddu cyfraddau cymhelliant a chadw gweithwyr.

Byddwch yn ymwybodol o unrhyw anghysondebau yn yr hyn rydych chi’n ei dalu i staff a chymryd camau i fynd i’r afael â nhw

Mae’n ofyniad statudol bod cyflogwyr gyda 250 o staff neu fwy yn cyhoeddi eu bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Serch hynny, pa faint bynnag yw’ch busnes, fel cyflogwr gwaith teg mae’n bwysig cymryd camau i fesur, adrodd a mynd i’r afael â gwahaniaethau cyflog o fewn eich gweithlu, yn cynnwys o ran rhywedd, ethnigrwydd ac anabledd.

Cyflwyno addysg ariannol i weithwyr

Yn ôl Awdurdod Ymddygiad Ariannol y DU, mae 67% o weithwyr yn cael trafferthion ariannol ar hyn o bryd, a gall y straen a achosir gan hyn gael effaith niweidiol ar eu hiechyd, eu cynhyrchiant a’u perfformiad busnes eu hunain.

Drwy gyflwyno hyfforddiant ac addysg ariannol sylfaenol i’ch staff, gallwch eu helpu i ddysgu sut i reoli eu harian bob dydd, a lleihau hywfaint o’r straen sy’n gysylltiedig â’u pryderon ariannol.

Meddyliwch am fanteision ariannol ychwanegol y gallwch eu cynnig i helpu eich staff

Remember that Fair Reward relates not only to rates of pay but also to other terms and conditions, including sick pay, maternity and paternity pay, occupational pension and benefit schemes. It includes fair evaluation of work and transparency in calculation and distribution of pay and benefits.

Cofiwch fod Gwobrwyo Teg yn berthnasol nid yn unig i gyfraddau cyflog ond hefyd i delerau ac amodau eraill, gan gynnwys tâl salwch, tâl mamolaeth a thadolaeth, pensiwn galwedigaethol a chynlluniau buddion. Mae’n cynnwys gwerthuso gwaith yn deg, a thryloywder wrth gyfrifo a dosbarthu cyflogau a buddion. Mae pob math o ffyrdd o wella’r ffordd o wobrwyo staff a gwneud gwahaniaeth go iawn i’w diogelwch ariannol, heblaw am godi cyflogau yn unig. A allech ystyried cyflwyno cynllun rhannu gweithle neu wella’r cynllun pensiwn, er enghraifft, neu sicrhau darpariaeth sydd yn uwch na’r lefel statudol ar gyfer tâl salwch, tâl mamolaeth a thadolaeth a gwyliau blynyddol?

Efallai y gallech chi gynnig talu rhywfaint o gostau gwaith ymlaen llaw na fydd gweithwyr efallai’n gallu eu fforddio, e.e. costau teithio i weithwyr newydd, i fynd i’r afael â’r rhwystr o symud o fudd-daliadau i waith? Yn olaf, gan ddefnyddio data gweithlu ac ymgysylltu â gweithwyr, mae’n werth targedu unrhyw gymorth ariannol ychwanegol tuag at eich gweithwyr sy’n agored i niwed ac ar incwm is i sicrhau bod eich buddion i weithwyr yn helpu’r rheini sydd eu hangen fwyaf.

Gwobrwyo teg pecyn cymorth

Rydym wedi paratoi’r pecynnau adnoddau defnyddiol hyn – un ar gyfer pob egwyddor Gwaith Teg – i’ch helpu ar y llwybr tuag at ddod yn gyflogwr Gwaith Teg.

Un cam allweddol yw sicrhau bod eich staff yn cael eu gwobrwyo’n deg. Mae llu o offer ac adnoddau ar-lein i’ch helpu i roi’r egwyddor hon ar waith ar draws eich sefydliad, felly, rydym wedi creu casgliad o’r rhai mwyaf defnyddiol yma:

Business in the Community - Cynllun Gweithredu Costau Byw i Fusnesau

Mae’r canllaw defnyddiol hwn yn nodi cyfres o gamau ymarferol y gall busnesau eu cymryd i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, mewn ffordd a fydd o fudd i weithwyr ac i’r busnes ei hun. Gyda chyngor a phecynnau cymorth wedi’u cynllunio i wella lles ariannol gweithwyr, helpu busnesau i ddeall a gweithredu ar unrhyw fylchau cyflog, a gwybod pwy sydd fwyaf angen cymorth, mae’r cynllun gweithredu’n egluro pam a sut gall busnesau wneud gwahaniaeth go iawn.

Llesiant Ariannol y Cyflogai: Canllaw Ymarferol

Gan ddarparu cyngor ymarferol i ymarferwyr Adnoddau Dynol a chyflogwyr o bob maint a sector ar sut i weithredu i hyrwyddo a chefnogi lles ariannol eu gweithwyr, mae’r canllaw hwn yn cynnwys pum cam hollbwysig i ddatblygu polisi effeithiol.

Dadansoddiad Bwlch mewn Llesiant Ariannol

Mae’r adnodd defnyddiol hwn wedi’i ddylunio i helpu cyflogwyr i gynnal Dadansoddiad o’r Bwlch Lles Ariannol yn eu busnes.

Bydd yn meincnodi eu darpariaeth yn erbyn eu cystadleuwyr/cymheiriaid, yn nodi unrhyw gyfleoedd a gollwyd yn eu strategaeth llesiant ariannol, yn tynnu sylw at y camau nesaf ar gyfer gwneud y gorau o’u darpariaeth llesiant ariannol ac yn modelu pa mor gadarn yn ariannol yw eu gweithwyr.

Cyflog Teg a Thaflen Ffeithiau ar Adrodd ar Gyflog

Mae'r daflen ffeithiau hon n ymdrin â thegwch cyflog, gan gynnwys cyflog uchel ac isel, a chyflog cyfartal am waith cyfartal. Mae hefyd yn edrych ar adrodd ar gyflogau, gan amlinellu'r hyn y mae'n rhaid ei ddatgelu ar hyn o bryd o dan gyfraith y DU, yn ogystal âr hyn y gallai fod ei angen yn y dyfodol. Mae hefyd yn egluro manteision cyhoeddi naratifau cyflog, y gall cyflogwyr eu defnyddio i ddangos eu bod yn ceisio talu eu gweithluoedd yn deg. 

Lawrlwytho'r ddogfen: 779.07 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.