BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cyfarwyddyd, Document

Llais y gweithiwr - pecynnau adnoddau

Pecynnau adnoddau

Cyhoeddwyd gyntaf: 17 Ebrill 2024
Diweddarwyd diwethaf: 17 Ebrill 2024
Lawrlwytho'r ddogfen: 2.96 MB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.

Sut i sicrhay bod llais eich gweithwyr yn cael ei glywed

Image removed.

Mae Llais y Gweithwyr yn rhan allweddol o Gwaith Teg. Mae manteision ymgysylltu â llais y gweithiwr yn cynnwys: 

  • Trafodaethau haws a mwy llwyddiannus 
  • Adnabod a datrys materion yn gynnar 
  • Mwy o ymgysylltiad a boddhad o du’r gweithwyr  
  • Gwell iechyd a diogelwch 
  • Cefnogaeth ar gyfer hyfforddiant a datblygiad  

Mae busnes yn dangos ei fod yn gwerthfawrogi llais gweithwyr a chynrychiolaeth gyfunol trwy ganiatáu Undebau Llafur, eu cydnabod a dilyn cytundebau ar y cyd. Gall unrhyw fusnes, waeth beth yw ei faint, ei sector neu leoliad, elwa o weithio gydag undeb llafur.

Image removed.

Dyma rai o’r ffyrdd y gall cael polisi Llais y Gweithiwr clir ac effeithiol fod o fudd i’ch busnes:

  • Mae llais y gweithiwr yn alluogwr allweddol ar gyfer ymgysylltiad gweithwyr. Gall gweithlu sy’n ymgysylltu, ac sy’n teimlo eu bod yn cael eu clywed, wella cynhyrchiant, ymrwymiad, cadw staff ac effeithiolrwydd. Mewn arolwg o dros 23,000 o unedau busnes, roedd y rhai â sgoriau ymgysylltiad gweithwyr uwch yn 18 y cant yn fwy cynhyrchiol, ac roedd absenoldebau 81 y cant yn is na’r rheini â chyfraddau ymgysylltu is.
  • Gall sicrhau bod eich gweithwyr yn cael eu clywed a’u cynrychioli mewn penderfyniadau busnes hefyd helpu’r tîm rheoli i gasglu syniadau, creadigrwydd ac arloesedd. Yn aml, eich staff yw’r rhai sy’n adnabod eich busnes, eich cyflenwyr a’ch cwsmeriaid orau, felly mae’n werth gwrando ar eu hawgrymiadau a’u hadborth.
  • Mae cael system llais y gweithiwr, lle mae’r gweithlu a’r rheolwyr yn cyfranogi, yn helpu i greu partneriaeth gymdeithasol gadarnhaol rhwng y ddau ac yn gallu cryfhau ymddiriedaeth y naill a’r llall. Gall hyn wedyn eich helpu i ddatrys unrhyw broblemau mewn ffordd broffesiynol a chyfeillgar, yn hytrach nag arwain at anghydfodau posibl.
  • Mae llais y gweithiwr hefyd yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o greu amgylcheddau gwaith cynhwysol. Bydd system effeithiol yn sicrhau bod safbwyntiau grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli, fel y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig, yn cael eu clywed hefyd.
  • Bydd gweithlu sy’n ymgysylltu ac sydd â llais ystyrlon yn cefnogi sefydliad sy’n wynebu cyfnodau o ansefydlogrwydd, naill ai o ganlyniad i raglenni newid mewnol neu bwysau allanol. Fodd bynnag, gall cael gweithlu sydd wedi ymddieithrio ac sydd heb fecanwaith priodol ar gyfer deialog ystyrlon waethygu’r pwysau hynny wrth iddynt chwilio am ffyrdd o ddatrys y rhwystredigaethau nad oes ganddynt unrhyw ffordd ddilys o’u mynegi.
  • Ac yn olaf, gall canlyniadau peidio â gwrando ar weithwyr lle mae problem wedi codi yn y sefydliad fod yn drychinebus i’r rheini dan sylw, gan arwain at ostyngiad mewn prisiau cyfranddaliadau a lleihau hyder y cyhoedd yn y busnes

Beth allaf ei wneud fel cyflogwr i sicrhau bod lleisiau fy ngweithwyr yn cael eu clywed?

Nawr rydych chi’n deall beth yw Llais y Gweithiwr, ac yn gwybod beth yw ei fanteision a hefyd y risgiau o beidio â’i roi ar waith yn eich sefydliad. Felly pa gamau allwch chi eu cymryd i’w wireddu?

Dyma rai camau ymarferol i’w hystyried:

Caniatáu mynediad i Undebau Llafur

Caniatáu mynediad at undebau llafur a glynu wrth gytundebau cyfunol lle bo’r rheiny’n berthnasol yw’r ffordd orau o ddangos eich bod yn deall pwysigrwydd llais y gweithiwr, a’ch bod wedi ymrwymo i wrando arno.

Mae 31.4% o weithwyr Cymru mewn Undeb ar hyn o bryd, sy’n ganran uwch na phob rhanbarth yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Gall undebau llafur eich cefnogi chi i gyflawni’ch ymrwymiadau gwaith teg.

Cyflwyno amrywiaeth o drefniadau ffurfiol, anffurfiol, unigol ac ar y cyd

Gwnewch hi mor hawdd â phosibl i staff gael dweud eu dweud drwy agor sianeli unigol a sianeli ar y cyd. Rhowch gyfle iddynt naill ai siarad yn uniongyrchol â’r rheolwyr neu’n anuniongyrchol drwy gynrychiolwyr gweithwyr ac undebau llafur, yn ffurfiol, drwy grwpiau ymgynghori ac arolygon, ac yn anffurfiol drwy gyfarfodydd tîm, fforymau staff a sianeli cyfathrebu gweithwyr. Ni fydd cael un fenter yn ddigon i sicrhau bod gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu clywed. Dull aml-sianel o roi Llais y Gweithiwr ar waith yw’r gorau bob amser.

Cynnal arolygon gweithwyr yn rheolaidd

Mae bron pob un o’r prif gyflogwyr y dyddiau hyn yn defnyddio rhyw fath o arolwg staff i ofyn am adborth a chasglu barn a syniadau’r gweithlu am y cwmni. Byddwch yn ofalus, fodd bynnag, oherwydd er mai’r rhain yw un o’r mathau mwyaf cyffredin o geisio llais staff, gallant hefyd fod yn un o’r rhai lleiaf ystyrlon, sy’n cynnig ymgynghoriad un ffordd, wedi’i sterileiddio, lle ceisir atebion ond ar y cwestiynau y mae rheolwyr eisiau eu hateb.

Helpu i wneud yn siŵr bod llais y gweithiwr yn cael ei glywed

Mae Llais y Gweithiwr yn gofyn am ddeialog ddwy ffordd, nid dim ond system gwyno neu gynllun awgrymiadau. Drwy raeadru gwybodaeth yn rheolaidd o’r brig i lawr i’r gweithlu, gallwch wneud yn siŵr bod eu barn yn wybodus ac yn werth gwrando arni

Gofalwch eich bod yn ymdrin â materion ystyrlon sy’n ymwneud â pherfformiad busnes, strategaeth, rheoli newid a diwylliant y gweithle, ac nid dim ond awgrymiadau am y peiriant coffi neu’r toiledau!

Sicrhau bod Llais y Gweithiwr yn cynrychioli eich gweithlu

Gwnewch yn siŵr bod llais pob gweithiwr yn cael ei glywed, nid dim ond y 30% sy’n gadarnhaol iawn neu’r 30% sy’n cwyno am bopeth, ond hefyd y 40% yn y canol sydd fel arfer yn ddigon bodlon i fwrw ymlaen â’r gwaith. Efallai nad nhw sydd fwyaf llafar, ond mae ganddynt gyfraniadau gwerthfawr i’w gwneud o hyd. Mae hyn yn arbennig o bwysig i grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli sydd â nodweddion gwarchodedig nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed yn aml.

Rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar gynrychiolwyr eich gweithwyr

Bydd angen cefnogaeth a hyfforddiant ar eich cynrychiolwyr gweithwyr etholedig os ydynt am gyflawni eu rôl yn effeithiol. Pan fo aelodaeth o undeb llafur yn bodoli, mae hyn yn rhywbeth y gallant ei gynnig, ond fel arall, fel y cyflogwr, dylech gymryd yr awenau i’w ddarparu.

Gweithredu ar adborth!

Y cyngor olaf – a’r un pwysicaf efallai – yw ymateb bob amser i’r awgrymiadau rydych chi’n eu derbyn a gweithredu arnynt. Mae sefydliadau sy’n mabwysiadu strwythur llais dim ond i ‘dicio blwch’ yn y CSR neu i wella eu henw da cyhoeddus, ond nad ydynt wedyn yn gwrando ar y safbwyntiau y mae eu gweithwyr yn eu mynegi, yn mynd i fethu yn hynny o beth. Os byddwch yn gofyn am farn eich staff ac yna’n cloi’r canlyniadau mewn drôr, bydd yn gwneud mwy o niwed na daioni, yn meithrin sinigiaeth a diffyg ymddiriedaeth.

Yn hytrach, adroddwch yn ôl yn rheolaidd ar gynnydd a daliwch ati i roi enghreifftiau go iawn i’ch gweithlu o achosion lle rydych chi wedi gwneud newidiadau ar sail eu hadborth. Dyma’r ffordd fwyaf effeithiol o feithrin eu hymddiriedaeth a’u hymgysylltiad a bydd yn talu ar ei ganfed yn y tymor hir.

Pecyn cymorth - Llais y gweithiwr

Image removed.

Rydym wedi paratoi’r pecynnau adnoddau defnyddiol hyn – un ar gyfer pob egwyddor Gwaith Teg – i’ch helpu ar y llwybr tuag at ddod yn gyflogwr Gwaith Teg.

Ffordd arall o gyflawni gwaith teg yw sicrhau bod llais y gweithiwr yn cael ei glywed bob amser.. Mae cyfoeth o offer ac adnoddau ar-lein i’ch helpu i roi’r egwyddor hon ar waith ar draws eich sefydliad ond mae gwybod sut i lywio drwy’r holl wybodaeth yn gallu bod yn her, felly rydym wedi creu casgliad o’r rhai mwyaf defnyddiol yma:

TUC Cymru

Mae gan TUC Cymru lu o wybodaeth a all eich helpu i gyflawni gwaith teg a deall manteision bargeinio ar y cyd.

Cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi: cod ymarfer, arweiniad a hyfforddiant | LLYW.CYMRU

Ffordd arall o ddangos eich ymrwymiad i weithredu system Llais y Gweithiwr effeithiol yw llofnodi Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi Llywodraeth Cymru.

Mae hwn yn adnodd gwych i fusnesau sy’n awyddus i gyflwyno nifer o egwyddorion Gwaith Teg gan fod ganddo gamau ymarferol ar gyflogaeth foesegol, chwythu’r chwiban a rhyddid i ymuno ag undebau llafur yn ogystal â chaethwasiaeth fodern, cadwyni cyflenwi moesegol, cyflogaeth ffug a’r Cyflog Byw.

Beth yw Llais y Cyflogai? | Involvement & Participation Association

Mae’r Involvement & Participation Association (IPA) wedi cyhoeddi dadansoddiad o’r manteision a’r gwahanol fathau o Lais Gweithwyr, sy’n cynnwys rhai awgrymiadau defnyddiol i fusnesau eu dilyn.

Llais y Cyflogai | Taflenni Ffeithiau | CIPD

Mae’r daflen ffeithiau hon yn edrych ar natur newidiol llais y gweithiwr a dylanwad yn y berthynas gyflogaeth, yn ogystal ag awgrymu mecanweithiau ar gyfer cyfranogi. Mae’n ymdrin â phynciau fel datgelu camarfer ac yn rhoi cyngor ymarferol ar sut gall cyflogwyr greu amgylchedd diogel lle mae unigolion yn teimlo eu bod yn gallu codi eu llais.

Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)

Yng Nghymru, gwelwyd datblygiadau sylweddol mewn ymdrechion i gynyddu llais gweithwyr a chydgynrychiolaeth, yn enwedig drwy bartneriaeth gymdeithasol. Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn datblygu hyn ymhellach ac felly mae’n werth i unrhyw gyflogwyr sy’n awyddus i gael rhagor o wybodaeth ei darllen.

Lawrlwytho'r ddogfen: 2.96 MB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.