BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Ariana Rainbow

“Dwi’n bendant wedi elwa o gael fy mentora gan Michelle ac fe ddywedwn i ein bod ni’n gweithio’n rhagorol gyda’n gilydd. Mae hi’n wych.

Roedd Eliana Keen, sylfaenydd Ariana Rainbow, sef busnes sy’n addysgu, ysbrydoli a grymuso unigolion ledled y byd, eisiau cymorth busnes ychwanegol yn ymwneud â marchnata a TG. 

Pan gysylltodd Eliana â ni, fe gafodd ei pharu â Mentor o Busnes Cymru i ganolbwyntio ar ddatblygu’r meysydd penodol hyn yn ei busnes.

Gyda’r cymorth a gafodd gan ei mentor, mae Eliana bellach wedi symud ymlaen yn sylweddol ers sefydlu’r berthynas fentora. Erbyn hyn, mae hi wedi llwyddo i becynnu a lansio ei phrif raglen, ac wedi gallu lansio ei chlwb sgyrsiau ieuenctid. 

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/case-studies neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.