BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Blackbird Ceramics

Mae Busnes Cymru wedi darparu cymorth â ffocws, proffesiynol a hynod o berthnasol i helpu i ddatblygu fy sgiliau er mwyn i fy musnes dyfu’n effeithiol.

Yr artist serameg a’r crochenydd stiwdio Prydeinig Richard Prentice yw sylfaenydd Blackbird Ceramics sydd wedi’i leoli yn Sir Benfro. Wedi’i ddylanwadu gan amgylchedd cefn gwlad a’r golygfeydd arfordirol, caiff ei waith ei arddangos mewn oriel gyfoes ar arddull ‘west coast’, a leolir ym mhentref harbwr Saundersfoot. 

Er mwyn sicrhau bod Blackbird Ceramics yn datblygu ac yn tyfu’n effeithiol, cysylltodd Richard â ni am gymorth i ddatblygu marchnata, presenoldeb ar-lein a rhyngwladol ei fusnes. 

Sicrhaodd y gefnogaeth un-i-un a gafodd Richard gan ei gynghorydd busnes y gallai Richard lywio cymhlethdodau hyrwyddo a marchnata ei waith celf ar-lein yn effeithiol. 

Yn fwy diweddar, rhoddodd ei gynghorydd busnes lefel sylweddol o gefnogaeth fanwl ar sut i allforio cerfluniau mawr i’r UDA, gan roi’r hyder a’r wybodaeth i Richard hyrwyddo ei waith i gleientiaid rhyngwladol. 

Rydym yn falch iawn o glywed bod Richard yn y broses o allforio ei gerflun mawr cyntaf i’r UDA. 

A hoffech chi gael cyngor arbenigol ar fasnachu rhyngwladol? Cysylltwch heddiw i sicrhau bod eich busnes yn tyfu’n effeithiol.  
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.