BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Brythonic Yachts

Brythonic Yachts

Busnes cychod hwylio mawr moethus, unigryw, yn lansio'n llwyddiannus yn Aberhonddu, gyda chymorth Busnes Cymru.

Ar ol rhedeg busnes datrysiadau morol llwyddiannus arall, Morgan Mar. Designs Ltd, penderfynodd y gwr a gwriag, Drew Reyland a Fiona Morgan, lenwi bwlch yn y farchnad ryngwladol a dechrau busnes newydd, Brythonic Yachts, gan gynnig cychod hwylio mawr o'r radd flaenaf, ar archeb. Roedd Busnes Cymru wrth law i gefnogi Morgan Maritime Designs Ltd yn nyddiau cynnar ei weithrediad, gan ei helpu i gasglu cyllid cychwyn busnes drwy Fenthyciad Cychwyn Busnes. Mae Busnes Cymru bellach yn helpu Drew a Fiona i sefydlu'r busnes newydd a'i dyfu drwy farchnata a brandio effeithiol, yn ogystal â darparu cyngor masnach rhyngwladol ac opsiynau cymorth pellach.

  • dechrau llwyddiannus
  • cymorth rheoli perthynas ar gael yn ystod y cam cychwynnol o sefydlu busnes dylunio cychod hwylio mawr o'r radd flaenaf

Cyflwyniad i'r busnes

Mae Brythonic Yachts yn Aberhonddu yn darparu gwasanaeth dylunio cychod hwylio mawr unigryw, wedi'i dargedu at y farchnad hwylio ryngwladol ar amrediad pris canolig. Gan weithio ochr yn ochr â dylunydd cychod hwylio Eidalaidd enwog a phensaer morol profiadol iawn o Dde Affrica, mae Brythonic Yachts yn cynnig portffolio deniadol o arddulliau, gan roi man cychwyn i gleientiaid greu eu llongau unigryw eu hunain.

Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?

Mae gan y ddau ohonom brofiad sylweddol yn y diwydiant datrysiadau morol drwy ein busnes Morgan Marine Designs Ltd. Roeddem yn adnabod y farchnad yn dda ac wedi canfod bwlch ar gyfer cychod hwylio mawr moethus, o'r radd flaenaf.

Roeddwn i'n gwybod fy mod yn dda yn gwneud yr hyn roeddwn i'n ei wneud ac yn gweld nad oedd neb arall yng Nghymru yn dylunio cychod hwylio mawr o ansawdd uchel, felly aethom ati i wneud hynny – o ddylunio a gwerthu cychod sglefrio dŵr o garej fy niweddar dad yn Llys-faen, Caerdydd, tua 30 mlynedd yn ôl, i fod yr unig ddylunydd a gwneuthurwr cychod hwylio mawr yng Nghymru erbyn hyn!

Cymorth Busnes Cymru

Cysylltodd Fiona a Drew gyntaf â Steve Maggs, Rheolwr Perthynas Busnes Cymru, yn 2019 drwy eu cyfrifwyr am gymorth ariannol ar gyfer Morgan Maritime Designs (MDD) Cyf., cwmni sy'n arbenigo mewn datrysiadau morol gan gynnwys dylunio, ymgynghoriaeth, cyflenwi deunyddiau, rheoli prosiectau ac adeiladwaith newydd ledled y byd. Archwiliodd Busnes Cymru ffyrdd ac opsiynau ar gyfer twf pellach, gan gynnwys hyfforddi sgiliau, cymorth ariannol, masnach ryngwladol a chyngor ar gynaliadwyedd.

Roedd hyn ar adeg pan oedd MMD Ltd. wrthi'n sicrhau cytundeb gwerth £26m i gyflenwi limwsinau môr yn y Maldives.

Nododd Drew a Fiona gyfle hefyd i ehangu i gychod hwylio mawr maint canolig, felly sefydlwyd ac ymgorfforwyd Brythonic Yachts i fanteisio ar y farchnad broffidiol hon. Mae Busnes Cymru, drwy eu Rheolwr Perthynas, Steve Maggs, yn helpu'r busnes i ddechrau derbyn cyngor marchnata arbenigol i sicrhau bod eu brand yn gyson â'r farchnad y maent yn anelu at ei denu, yn ogystal â rhoi cyngor i sicrhau bod gweithgareddau marchnata digidol Drew yn darparu ffordd gost-effeithiol a phellgyrhaeddol o hyrwyddo gwasanaethau a datrysiadau dylunio Brythonic Yachts. Mae Busnes Cymru hefyd yn hwyluso cymorth gan dîm Cynghori ar Fasnach Ryngwladol Llywodraeth Cymru i gael cymorth pellach drwy ei Hwb Allforio.

Canlyniadau

  • dechrau llwyddiannus
  • cymorth rheoli perthynas wrth law gyda sefydlu busnes dylunio cychod hwylio mawr o'r radd flaenaf.

Rydym yn ddiolchgar i Steve am fod ar gael i gefnogi Morgan Maritime Designs Ltd. ac am ei gymorth yn ystod dyddiau cynnar cylch bywyd Brythonic Yachts. Rydym eisoes yn eithriadol o brysur fel yr unig fusnes dylunio a gweithgynhyrchu cychod hwylio mawr o'r radd flaenaf, ar archeb, yng Nghymru.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/case-studies neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.