BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Busnes Cymru’n agor y drws ar fenter newydd ar gyfer cwmni gweithgynhyrchu o’r de

Richard Gambling of GRM Windows stood in their window making factory

Mae cwmni cynhyrchu ffenestri a drysau o Bont-y-clun wedi datgloi gwerth dros £1 miliwn o gontractau i gyflawni’r genhedlaeth nesaf o dechnoleg effeithlon o ran ynni diolch i gymorth Busnes Cymru.  

Sefydlwyd GRM Windows gan Gareth Gambling ym 1979, ac mae’r cwmni wedi bod yn darparu paneli PVCu pwrpasol, ystafelloedd haul, drysau a ffenestri  ar gyfer cleientiaid masnachol a phreswyl ers dros 40 o flynyddoedd. Mae’r GRM ym mherchnogaeth mab Gareth, Richard Gambling, erbyn hyn, ac mae’r cwmni wedi bod yn arloesi gyda’r dechnoleg ddiweddaraf i fod un o nifer fechan o gwmnïau yn y DU sy’n cynhyrchu cynnyrch Passivhaus.

Mae cynnyrch Passivhaus yn cael ei gynhyrchu er mwyn sicrhau’r effeithlonrwydd ynni a chynaliadwyedd gorau posibl trwy leihau faint o wres ac aer sy’n cael eu colli er mwyn sicrhau amgylchedd sefydlog heb ddrafftiau, sy’n gallu dileu’r angen am wres ac oeri artiffisial a chreu gwell ansawdd aer yn gyffredinol. 

Er bod GRM Windows wedi datblygu trosiant blynyddol trawiadol o £2.2 miliwn, a phortffolio cadarn o gleientiaid uchel eu proffil, roedd Richard yn teimlo bod mwy o gyfleoedd o fewn cyrraedd i’r cwmni. Yn 2020, gofynnodd am gymorth Busnes Cymru i ailstrwythuro’r busnes, gwella’i weithrediadau marchnata ac ehangu ei gysylltiadau â chleientiaid.

Ers cysylltu â Busnes Cymru yn 2020, mae GRM Windows wedi diogelu chwe chontract ar gyfer cynnyrch Passivhaus yn yr Alban â gwerth o dros £1.1 miliwn, sydd wedi cadarnhau sefyllfa’r cwmni yn niwydiant gweithgynhyrchu’r DU.

Gweithiodd Rheolwr Perthnasau Busnes Cymru, Phil Summers, gyda Richard i lunio cynllun busnes strategol, gan ganolbwyntio ar ddatblygiad mewnol, gwerthu i gwsmeriaid newydd a thwf hirdymor. Roedd hyn yn cynnwys gwella gwefan GRM a hybu ei bresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol. 

Gan ddilyn cyngor Phil ar dendro am fusnes newydd, dechreuodd Richard fynychu digwyddiadau ‘Cwrdd â’r Prynwr’ Busnes Cymru i ymgysylltu â darpar-gwsmeriaid. Wrth siarad am dwf GRM Windows, dywedodd Richard:

Mae gennym hanes maith o ddarparu cynnyrch o safon a gwasanaethau rhagorol yn lleol, ond roeddwn i am sicrhau bod y busnes mewn sefyllfa dda i dyfu yn y dyfodol. Fel un o’r unig gwmnïau sy’n cynhyrchu cynnyrch Passivhaus yn y DU, roeddem ni’n gwybod bod y cyfrifoldeb dros adeiladu marchnad ddomestig gadarn ar gyfer y dechnoleg gynaliadwy yma yn ein dwylo ni.

Mae cefnogaeth Busnes Cymru wedi bod yn amhrisiadwy wrth lywio strwythur ein busnes er mwyn mynd ar drywydd cyfleoedd newydd a mireinio ein strategaethau gwerthu a marchnata. Ers i ni fod yn gweithio mewn partneriaeth â nhw, mae ein gwerthiannau wedi tyfu’n sylweddol, mae ein presenoldeb ar lein wedi gwella, ac rydyn ni wedi ymrwymo i addewidion Twf Gwyrdd a Chydraddoldeb Busnes Cymru. Mae arweiniad Phil wedi bod yn allweddol wrth ein helpu ni i gryfhau ein tîm ac ehangu ein cwmpas ar draws Cymru a’r tu hwnt.

Gyda chymorth Ymgynghorydd AD Busnes Cymru, symleiddiodd Richard weithrediadau’r cwmni, recriwtiwyd pum gweithiwr newydd a chafodd rolau o fewn y tîm eu heglurhau er mwyn gwella perfformiad tîm gwerthu a marchnata GRM. Ar ôl cael cyngor ar sgiliau a chyflogaeth, mae Richard yn gobeithio cyflogi prentis fel y gellir addysgu’r genhedlaeth nesaf am y dechnoleg gynaliadwy ddiweddaraf.

Fel cwmni sydd wedi llofnodi addewid Cydraddoldeb Busnes Cymru, mae GRM wedi ymrwymo i gymryd camau rhagweithiol i greu gweithle cynhwysol, teg ac amrywiol, sy’n dangos eu hymrwymiad i’w gweithwyr a’r gymuned ehangach. 

Dywedodd Rheolwr Perthnasau Busnes Cymru, Phil Summers:

Mae GRM Windows yn esiampl fendigedig o sut y gall busnesau Cymreig arloesol gyflawni twf sylweddol gyda’r cymorth cywir. Yn aml, mae mynd â chwmni i’r lefel nesaf a datgloi cyfleoedd gwerthu newydd yn gofyn am welliannau syml ond strategol. Mae parodrwydd Richard a’i dîm i gydweithio â ni, adolygu eu prosesau, a mynd ar drywydd cyfleoedd newydd yn rhagweithiol wedi bod yn hanfodol i’w llwyddiant. Mae’r canlyniadau, gyda gwerthiannau’n cynyddu dros £1 miliwn, yn dweud y cyfan.

Mae Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i ddarganfod cyfleoedd, ac i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ewch i Hafan | Busnes Cymru neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.