BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Cariad o Gymru

Bwydgarwr brwd o Gymru yn lansio busnes hamperi wedi'u gwneud i archeb, yn dathlu cynhyrchwyr lleol a phopeth Cymreig.

Gydag angerdd dros Gymru, cynnyrch lleol a bwyd, trodd Helen Pritchard sefyllfa heriol Covid-19 yn fusnes hamperi wedi'u teilwra'n arbennig newydd sbon, sef Cariad o Gymru. Elwodd Helen o weminar dechrau busnes a chymorth ymgynghorol a ddarparwyd gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, gan ganiatáu iddi lansio'r busnes yn 2020.

  • Gweminar dechrau busnes a chymorth ymgynghorol i sefydlu'r busnes
  • Sicrhau benthyciad dechrau busnes o £10,000
  • Y busnes wedi'i lansio'n llwyddiannus ac wedi creu 1 swydd
  • Ymrwymedig i Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru

Cyflwyniad i'r busnes

Wedi'i lansio gan Helen Pritchard yn Abertawe, mae Cariad o Gymru yn cynnig detholiad o hamperi rhoddion a chynhyrchion o Gymru wedi'u teilwra'n arbennig ar gyfer pob achlysur a chyllideb.

Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?

Rwyf wedi caru Cymru ers fy mhlentyndod. Wedi'i geni i rieni o Gymru, oedd yn falch o'u cenedligrwydd, nid yw ond yn naturiol bod hynny'n rhedeg trwy fy ngwythiennau innau hefyd. Oherwydd swydd fy Nhad, fe symudon ni lawer yn ystod fy mhlentyndod ledled Lloegr, ond roeddwn i bob amser yn hiraethu am Gymru. Cymru oedd fy lle hapus a diogel i ddychwelyd iddi yn ystod y gwyliau, i aros gyda fy mam-gu a fy nhad-cu.

Yn fuan ar ôl ein priodas, gwerthodd Tim a minnau ein tŷ, gadael ein swyddi a mynd i deithio ledled y byd am dros wyth mis. Gan rannu ein cydedmygedd o deithio a bwyd, fe fuon ni i leoedd hynod drawiadol a blasu prydau anhygoel. Trwy fwyta gyda theuluoedd lleol ac ymweld â marchnadoedd lleol, roeddem yn gallu gweld yr holl gynnyrch lleol oedd ar gael. Gwelsom genhedloedd balch yn gwneud y mwyaf o'u cynnyrch, ac rwyf nawr eisiau cefnogi'r wlad rwyf yn byw ynddi a'i bwyd o'r safon orau.

Mae ein teulu'n parhau i deimlo'n angerddol am fwyd a chynnyrch o safon. Nid yw'n syndod ei bod hi bron yn anochel y byddwn yn dilyn gyrfa yn y diwydiant bwyd. Rwyf wedi gweithio yn y diwydiant fel cogydd datblygu ac economegydd cartref. Ar ôl cael tri o blant, es ymlaen a datblygu fy sgiliau i fod yn fusnes bach yn dysgu dosbarthiadau coginio i bobl ifanc, gan fy mod eisiau trosglwyddo gwerth bwyd o ansawdd da a thrio gwahanol fwydydd.

Wrth i fy nheulu ymgartrefu yn ôl yng Nghymru, roeddwn i eisiau rhannu fy nghariad at y wlad brydferth hon trwy rywfaint o’r bwyd gwych y cefais fy magu ag ef, yn ogystal â rhoi blas o’r iaith ryfeddol i bobl.

Wrth i fy rhieni fynd yn hŷn, roeddwn eisiau rhoi anrheg arbennig ac ystyrlon iddyn nhw. Fodd bynnag, fel llawer o bobl eraill yn fy sefyllfa i, yr ateb bob tro fyddai "nid ydym eisiau dim byd". Roedd hamperi yn cael eu croesawu bob amser.

Rwy'n teimlo ei bod yn bwysig cefnogi ein cymuned trwy brynu'n lleol a gwella economi Cymru, sydd hyd yn oed yn fwy hanfodol nawr. Ychydig flynyddoedd yn ôl, helpais ffrind i sefydlu caffi Cymreig lleol ac wrth ddod o hyd i'w cynhyrchion bwyd, darganfyddais y cyfoeth o gyflenwyr anhygoel sydd gennym ledled y wlad. Dyma’r cymhelliant i sefydlu fy nghwmni hamperi, arddangos peth o gynnyrch ac anrhegion gorau Cymru.

Felly, pan ddaeth fy nghontract gwaith i ben oherwydd y pandemig Covid-19, dechreuais feddwl am sefydlu Cariad o Gymru. Y teulu sydd bwysicaf i mi a gyda fy ngŵr yn aml i ffwrdd gyda'i waith, roeddwn i eisiau bod yn hyblyg a gweithio oriau fyddai'n fy nghaniatáu i fod gartref i fy nheulu.

Fodd bynnag, roeddwn yn gwybod bod yna lawer o fusnesau tebyg eisoes yn bodoli ac roeddwn eisiau cynnig mwy o eco-hamper i gysylltu ag addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru. Mae ein label calon hadau pabi Cymreig wedi'i wneud â llaw o wastraff pecynnu o gartrefi wedi'i wasgu'n fwydion. Felly, yn lle ei daflu i ffwrdd, gellir ei blannu yn yr ardd. Bydd y label yn pydru a bydd y pabïau yn ffynnu.

Byddwn yn defnyddio cyn lleied â phosib o ddeunydd pacio. Mae bocsys yr hamperi yn dod o ffynonellau cynaliadwy ac yn 100% ailgylchadwy. Mae’r llenwad ‘pren’ yn sgil-gynnyrch 100% naturiol. Mae'n ailgylchadwy, yn bydradwy, ddim yn cynnwys cemegau ac yn addas i'w ddefnyddio fel deunydd gwely i anifeiliaid anwes. Rwy'n gweithio gyda dylunydd ac argraffydd lleol, ac rydym yn defnyddio toriadau 100% ailgylchadwy, o ffynonellau FSC, stoc dros ben neu bapur a cherdyn gwastraff ar gyfer ein deunyddiau printiedig.

Yn anffodus, mae Covid-19 yn golygu nad yw llawer o deuluoedd wedi gallu dod at ei gilydd i ddathlu penblwyddi, penblwyddi priodas a digwyddiadau eraill. Mae hamper wedi bod yn anrheg berffaith yn ystod y cyfnod hwn. Mae'n well gen i weithio'n agos gyda chwsmeriaid yn hytrach na chynnig rhestr brisiau safonol, gan fy mod i eisiau cynnig gwasanaeth pwrpasol i gyd-fynd â'u cyllidebau a'u gofynion unigol. Mae eu hanwyliaid felly'n cael hamper sy'n unigryw iddyn nhw.

Pa heriau a wyneboch?

Torrodd fy ngliniadur pan oeddwn ar ganol sefydlu'r busnes, a chymerodd amser i mi gael trefn ar bethau eto.

Yn ogystal, gan fy mod o oedran lle na chefais fy magu gyda'r cyfryngau cymdeithasol, mae wedi bod yn gromlin ddysgu i roi pethau ar waith. Mae fy mhlentyn 11 oed yn fy helpu gyda phostiadau Instagram!

Mae'r heriau eraill wedi cynnwys dim cael unrhyw gyfalaf y tu cefn i mi i ddechrau arni a ddim bod yn siaradwr Cymraeg rhugl: Roeddwn eisiau postio cynnwys mwy dwyieithog, ond mae hynny'n cymryd dipyn mwy o amser i ddysgwr!

Cymorth Busnes Cymru

Aeth Helen i weminar dechrau busnes cyn gweithio gyda'r cynghorydd busnes, Hywel Bassett, ar ei chynllun busnes a'i rhagolygon llif arian. Fe wnaeth y gefnogaeth ei galluogi i sicrhau benthyciad o £1,000 gan y Cwmni Benthyciadau Dechrau Busnes i brynu stoc ychwanegol a dechrau'r busnes hamperi.

Gyda chefnogaeth Hywel, lansiodd Helen y busnes ym mis Medi 2020 ac mae eisoes yn ehangu ei sylfaen cwsmeriaid y tu hwnt i Gymru.

Canlyniadau

  • Gweminar dechrau busnes a chymorth ymgynghorol i sefydlu'r busnes
  • Sicrhau benthyciad dechrau busnes o £10,000
  • Y busnes wedi'i lansio'n llwyddiannus ac wedi creu 1 swydd
  • Ymrwymedig i Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru

Mae Hywel wedi bod yn gefn anhygoel i mi. Mae'n gyfeillgar, yn agos-atoch ac yn llawn gwybodaeth. Helpodd fi i gael benthyciad busnes trwy roi cyngor ar fy nghynllun busnes. Fe wnaeth y benthyciad hwn fy helpu i brynu stoc ac offer cychwynnol i gynyddu'r ystod o eitemau a oedd ar gael a rhoi cychwyn da i'r busnes.

Mae Hywel wedi bod wrth law bob amser i gynnig cyngor pellach ar gwestiynau oedd gennyf ac wedi fy annog ar bob lefel; mae ganddo synnwyr digrifwch gwych, hefyd!

Roedd y weminar gychwynnol ar ddechrau busnes yn ddefnyddiol iawn a gobeithiaf edrych i mewn i fwy o gefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol i'm helpu i wella fy sgiliau ymhellach.

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Byddwn i wrth fy modd yn tyfu’r busnes trwy barhau i weithio’n agos gyda chynhyrchwyr o Gymru a chynnig ystod eang o hamperi trwy gydol y flwyddyn. Hoffwn greu blychau rysáit neu goginio gan gyfuno fy musnes coginio blaenorol a'm mhrofiad o ysgrifennu ryseitiau gan ddefnyddio'r cynhyrchion Cymreig rhyfeddol sydd ar gael.

Rwyf wedi anfon hamperi i Dde Ffrainc, Canada ac yn fuan i Awstralia, felly hoffwn allu rhannu hamperi o Gymru i Gymry alltud ledled y byd i'w hatgoffa o gartref!

Rwyf hefyd yn bwriadu gwella fy Nghymraeg a manteisio ar gymorth Helo Blod i ddod yn fwy dwyieithog.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/case-studies neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.