BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Christina Cooling

Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn eithriadol o anodd oherwydd y pandemig, ond mae’r wobr hon yn brawf, gyda’r gefnogaeth, gwaith caled, penderfynoldeb a dyfal barhad cywir, gall breuddwydion gael eu gwireddu!

Pan agorodd Christina Cooling ei busnes yn Sir Fynwy fel artist colur llawrydd, roedd Busnes Cymru yno i roi cefnogaeth yn ymwneud â ffyrdd o ddatblygu ei busnes.

Amcan Christina ar gyfer ei busnes yw gwella ei marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol a mynd â’i busnes i’r lefel nesaf. 

Er mwyn cyflawni hyn, mynychodd Christina ein gweithdy ‘Ymchwilio a Chynllunio eich Marchnata’, derbyniodd gyngor un i un gan gynghorydd busnes a chefnogaeth gan Superfast Busnes Cymru i wireddu ei photensial marchnata digidol i fusnesau. 

Mae Christina newydd ennill Artist Colur Priodas y Flwyddyn y De Orllewin yng ngwobrau mawreddog ‘The Wedding Industry Awards’ - am anhygoel! Pleidleisiwyd drosti fel un o’r 8 Artist Colur Priodas Gorau yn y DU.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/case-studies neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.