BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Claire Baker Coaching

Claire Baker Coaching

Entrepreneur o Benarth yn elwa ar fentor busnes gwirfoddol i ddatblygu a thyfu ei busnes hyfforddi.

Sefydlwyd Claire Baker Coaching gan yr hyfforddwr bywyd Claire Baker er mwyn helpu gweithwyr Adnoddau Dynol proffesiynol i osgoi a goresgyn lludded proffesiynol neu bersonol, ynghyd â gwella ar ei ôl. Gweithiodd Claire gyda mentor busnes gwirfoddol, fel rhan o raglen Mentora Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, i ddatblygu ei brand, ei chynhyrchion a’i gwasanaethau, ac mae wedi symud yn llwyddiannus i gynnig gwasanaeth ar-lein yn ystod y cyfnod clo.

Cyflwyniad i’r busnes

Hyfforddwr gwytnwch a llesiant yw Claire Baker. Cychwynnodd ei busnesau Claire Baker Coaching a HR for HR er mwyn cynnig hyfforddiant, rhaglenni a gweithdai’n ymwneud ag atal lludded a gwella ar ei ôl, yn benodol ar gyfer y proffesiwn Adnoddau Dynol.

Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?

Roeddwn i wedi gweithio yn y byd corfforaethol ers ugain mlynedd, yn bennaf yn y sector Adnoddau Dynol. Fel y gŵyr pawb sy’n gweithio mewn proffesiwn sy’n seiliedig ar bobl, gall fod yn wirioneddol werth chweil ond hefyd gall fod yn heriol dros ben, yn gymhleth ac yn dreth ar yr emosiynau. Yn 2017 cyrhaeddais ben fy nhennyn; roeddwn i wedi llwyr ymlâdd yn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol.

Fe wnaeth hyn fy ngorfodi i ailflaenoriaethu fy mywyd. Gan fod cymaint o ’mywyd yn troi o amgylch fy ngwaith, fy swydd a ’ngyrfa, roedd hi’n amlwg bod yn rhaid imi wneud rhai newidiadau mawr.

Dechreuodd pennod newydd yn fy mywyd pan benderfynais fynd yn hunangyflogedig. Rhoddodd hyn gyfle imi ddysgu llawer o bethau newydd yn gyflym ac fe wnaeth fy ngalluogi i ganolbwyntio arnaf i fy hun a ’nheulu yn hytrach nag ar y busnesau roeddwn i wedi gweithio iddynt. Roedd yn golygu y gallwn greu busnes ar sail fy ngwerthoedd fy hun, gan gael llawer mwy o ddewis a hyblygrwydd o ran yr hyn roeddwn i eisiau ei wneud neu ei osgoi.

Sut mae gwasanaeth Mentora Busnes Cymru wedi eich helpu i oresgyn heriau a thyfu?

Wrth gwrs, mae cychwyn busnes newydd sbon yn siŵr o esgor ar lu o heriau, llawer o bethau newydd a dieithr, llawer o gwestiynau a llu o bethau ansicr. Fe wnaeth Busnes Cymru fy helpu i gadw fy nhraed ar y ddaear, a defnyddio’r wybodaeth, yr arbenigedd a’r gwasanaethau a oedd ar gael i adeiladu sylfeini cadarn.

Mae’r tîm mentora’n wych; maen nhw’n gwybod yn iawn â phwy i’ch paru er mwyn i chi a’ch busnes allu elwa i’r eithaf. Bu modd imi ddweud â pha agweddau roeddwn i angen cymorth ac arweiniad, yn ôl testun neu bynciau anodd, ac yna cefais arweiniad gan y tîm ar gyfer fy mharu â’r mentor iawn. Mae’r broses fentora’n bersonol, yn broffesiynol ac yn eithriadol o fuddiol; mae wedi fy helpu i fagu hyder, ac rydw i’n deall yn well pwy ydw i a beth yw fy musnes.

Beth fyddech chi’n ei ddweud am eich mentor Gareth?

Mae Gareth yn defnyddio’i brofiad a’i wybodaeth helaeth i herio ac archwilio safbwyntiau gwahanol a dadansoddi syniadau. Mae’n defnyddio’i arddull, ei bersonoliaeth a’i egni i ddod i’ch adnabod chi a’ch anghenion, heb feirniadu.

Mae Gareth yn wych am wrando ac ymateb, mae’n llawn anogaeth ac mae wedi dangos imi sut y gallaf ddefnyddio fy arddull bersonol fy hun i greu brand, cynhyrchion a gwasanaethau dilys – strategaeth berffaith nid yn unig i mi, ond i ’nghwsmeriaid hefyd.

Rydw i wir yn edrych ymlaen at ein sgyrsiau, oherwydd gwn y bydd y gwaith cyfeiriad meddwl a wnawn yn gwella fy nghreadigrwydd ac yn gwneud imi deimlo’n llawn cymhelliant, i gyd-fynd â’r momentwm i wella fy musnes wrth symud ymlaen.

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Eleni hyd yn hyn, rydw i wedi lansio ‘The HR FOR HR Club’ ac mae 121 o raglenni hyfforddi grwpiau wedi’u creu. Mae denu mwy o sylw ar gyfer y cynhyrchion hyn yn rhan bwysig o ’nghynllun ar gyfer gweddill y flwyddyn.

Yn amodol ar y cyfyngiadau Covid-19 ledled y DU, erbyn diwedd y flwyddyn rydw i’n bwriadu cwblhau Sioe Deithiol ‘HR FOR HR’ ar hyd a lled y DU ac arwain o leiaf 6 o Ddiwrnodau / Penwythnosau  raglenni hyfforddi grwpiau.

O ran dyheadau, mae gennyf un – sef cyhoeddi llyfr. Rydw i’n ysu am ysgrifennu dau lyfr o leiaf, ond rhaid imi gael cydbwysedd o ran blaenoriaethu fy amser a fy egni ar hyn o bryd i adfer ar ôl effeithiau Covid-19.

Mentora Busnes Cymru

Mae gan Gareth Harris fwy na 15 mlynedd o brofiad mewn e-ddysgu, hyfforddi a chyflwyno hyfforddiant NPL. Mae’n rhedeg ei fusnes e-ddysgu ei hun, sef e-Development, gan arbenigo mewn atebion e-ddysgu teilwredig ar gyfer cwmnïau, hyfforddwyr ac ymgynghorwyr, yn cynnwys cynllunio a chreu modiwlau ar-lein pwrpasol a chyrsiau dysgu cyfunol.

Pan ofynnwyd i Gareth sôn am ei berthynas fentora â Claire, dyma a ddywedodd: “Fe wnes i gyfarfod Claire trwy rwydweithio, ond doeddwn i ddim wedi treulio unrhyw amser yn trafod ei chwmni na’i chynhyrchion. Ar yr adeg y cynhaliwyd ein sesiwn gyntaf, roedd holl waith Claire yn cael ei wneud wyneb yn wyneb ac roedd wedi dod i ben oherwydd y cyfnod clo.

Roedd rhan helaeth o’r sgyrsiau gyda Claire yn ymwneud â chynnwys y cynnyrch ar-lein. Mae Claire yn meddu ar doreth o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad. Mae’n danbaid iawn dros Adnoddau Dynol a helpu’r bobl sy’n gweithio yn y diwydiant. Rhaid oedd inni ddefnyddio hyn a phenderfynu beth ellid ei ddatblygu i weithio ar-lein/o bell, a beth i fynd i’r afael ag ef yn gyntaf.

Roedd gan Claire nifer o gyrsiau y gallai fod wedi gweithio arnynt, a thrwy drafod gwahanol opsiynau a rhoi cynnig arnynt, bu modd iddi ddwyn ynghyd nifer o gynhyrchion hyfforddi a chymorth arloesol yn ymwneud ag Adnoddau Dynol.

Profiad gwych fu bod yn rhan o’r broses hon a gwylio Claire yn troi o fod yn rhywun â pheth profiad o hyfforddi ar-lein/o bell i fod yn rhywun sy’n lansio ac yn gwerthu ei chyrsiau.

Mae hi wedi bod yn siwrnai a hanner, ac roedd rhai o’r galwadau’n canolbwyntio mwy ar gymhelliant nag ar gynnwys. Ond roedd yr alwad a gawsom pan werthodd ei chwrs cyntaf yn alwad wych. Roedd Claire yn llawn cyffro, ac rydw i’n wirioneddol falch o bopeth y mae hi wedi’i gyflawni.”

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chi i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.