BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

CVS Technical Limited

CVS Technical Limited

Mae Busnes Cymru wedi bod yn gymorth gwych i mi wrth i mi ddechrau fy nghwmni, ac wedi aros mewn cysylltiad â mi. A minau'n unigolyn anabl ifanc, maen nhw wedi fy nghyfeirio at lawer o ymgynghorwyr sy'n fy neall i'n bersonol, fy nghyflwr a fy nhargedau ar gyfer fy musnes. Mae'r cymorth rwyf wedi'i gael gan Busnes Cymru wedi fy ngalluogi i gymryd y cam enfawr hwn yn 22 oed, ac ni fyddwn wedi gallu sefydlu fy musnes hebddynt.

Roedd Caitlyn Sheldon eisiau sefydlu cwmni ymgynghori TG oedd yn atgyweirio cyfrifiaduron, rhoi cymorth i fusnesau bach a hyfforddiant TG i bobl sy'n cael trafferth â thechnoleg, megis pobl hŷn, perchnogion busnes, neu bobl sy'n mentro i'r farchnad swyddi eto.

Cymerodd ran yn un o'n Gweminarau Sefydlu Eich Busnes, a gweithio gydag ymgynghorydd busnes i lunio Cynllun Busnes a Rhagolygon Llif Arian ar gyfer y busnes oedd ganddi dan sylw.

Llwyddodd Caitlyn i ddefnyddio ei Chynllun Busnes a Rhagolygon Llif Arian i wneud cais llwyddiannus ar gyfer Grant Rhwystrau Rhag Dechrau.

Mae hyn wedi ei helpu hi i ddechrau ei busnes, CVS Technical Limited, ac mae bellach yn gweithio ar sail llawn amser, hunangyflogedig.

Yn ychwanegol at hyn, mae Caitlyn wedi cofrestru ar gyfer ein Haddewidion Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a Thwf Gwyrdd, er mwyn gwella arferion busnes a chreu gwasanaeth cynhwysfawr ar gyfer ei chleientiaid. Bydd hefyd yn defnyddio cwmnïau ailgylchu sy'n arbenigo mewn offer TG i sicrhau bod popeth yn cael ei ailgylchu'n gywir.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/case-studies neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.