BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Oriel Gelf Gain Tides/Clustogwaith Tides

Tides Fine Art Gallery and Tides Upholstery

Perchennog oriel gelf yn sicrhau cyllid i fynd i'r afael â Covid-19, tra'n lansio busnes newydd, diolch i gefnogaeth gan Busnes Cymru.

Ar ôl wynebu anawsterau ariannol gyda'i horiel celf gain, trodd yr entrepreneur Jo Frost at wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru am gymorth. Derbyniodd gyngor ynghylch cynnal y busnes, gan gynnwys cymorth i sicrhau cyllid. O ganlyniad, llwyddodd Jo i gynyddu trosiant oriel gelf gain Tides a chychwyn menter newydd hyd yn oed.

  • Cymorth busnes i gadw'r oriel ar agor yn ystod Covid-19
  • 1 swydd wedi'i diogelu ac 1 swydd wedi'i chreu
  • Buddsoddiad grant o £14,000 wedi'i sicrhau
  • Cymorth Adnoddau Dynol gyda recriwtio, contractau cyflogaeth a chydymffurfiaeth gyfreithiol
  • Busnes newydd wedi'i lansio gyda buddsoddiad benthyciad cychwynnol ac 1 swydd ychwanegol

Cyflwyniad i'r busnes

Sefydlwyd oriel gelf Mumble's Tides ym mis Mehefin 2018, gan arddangos y paentiadau cefnfor dramatig clodwiw gan yr artist a'r perchennog Jo Frost. Gyda golygfa hardd o Fae Abertawe, mae'r oriel celf gain fawreddog yn cynnig darnau unigol arbennig i'w prynu a'u comisiynu gan artistiaid proffesiynol sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru.

​Yn wyneb heriau ariannol, a ddaeth yn sgil y pandemig Covid-19, penderfynodd Jo sefydlu busnes arall - Clustogwaith Tides, gan gynnig atebion dodrefnu morol a meddal, gan gynnwys ailgynllunio cyflawn a thasgau atgyweirio ar gyfer cychod, gwersyllwyr a dodrefn gerddi, masnachol a chartref.

Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?

Yn ystod haf 2020, roeddwn mewn sefyllfa anodd o ran sut yr oeddwn yn mynd i gynnal fy hun, cael fy oriel, Oriel Celf Gain Tides, drwy'r cyfnod clo, talu rhent a chefnogi'r artistiaid rwyf yn eu harddangos - i ddechrau, heb incwm o gwbl. Er mwyn cael llif incwm arall, ystyriais gychwyn fy musnes clustogwaith. Diolch i gefnogaeth gan Busnes Cymru, yn wir fe ddechreuais ar hyn a daeth Clustogwaith Tides i'r amlwg!

Darganfyddais yn gyflym fod galw mawr am glustogwaith yn yr ardal ac roedd gennyf lwyth o swyddi i'w gwneud cyn i mi hyd yn oed brynu'r peiriannau gwnïo! Yna llwyddais i brynu'r offer gyda'r grant cychwynnol a roddwyd yn hael i mi. 

Mae Oriel Celf Gain Tides wedi goroesi ac yn wir, mae'n deg dweud, wedi ffynnu yn ddiweddar. Mae hyn hefyd o ganlyniad i'r gefnogaeth ariannol a dderbyniais gan y llywodraeth. Yn ystod y misoedd y gwnaethom allu agor, gwnes ychydig o werthiannau paentiadau mawr ac ers hynny, rwyf wedi ymgymryd â phedwar comisiwn. Rwyf yn cyfri fy mendithion, ond rwyf hefyd yn ymwybodol iawn y bydd hon yn ffordd heriol am gyfnod eto ac felly nid wyf yn gorffwys ar fy rhwyfau ac rwyf yn dal ati i ganolbwyntio ar gyfathrebu gyda chwsmeriaid a gwneud gwerthiannau. Nid yw hwn yn gyfnod i gymryd gwerthiannau yn ganiataol.

Pa heriau a wyneboch?

Y brif her i'r ddau fusnes oedd fforddiadwyedd, sydd, wrth gwrs, ar frig y rhestr o bryderon fel busnes cychwynnol. Yn 2020, fel yn achos y mwyafrif o fusnesau, rydym mewn sefyllfa o newid radical - mae dod o hyd i ffrydiau incwm a sicrhau gwerthiannau yn ystod Covid-19 wedi bod yn anodd.

Cymorth Busnes Cymru

Cysylltodd Jo â Busnes Cymru oherwydd, yn sgil Covid19, roedd ei horiel celf gain mewn trafferthion ariannol oherwydd diffyg gwerthiannau ac roedd hi angen cyngor ar y cymorth ariannol a oedd ar gael. Gweithiodd Jo gydag ymgynghorydd busnes cychwynnol Busnes Cymru, Shahidul Islam, a helpodd sicrhau grant Cam 1 yr Awdurdod Lleol yn ogystal â grant cyfnod clo, gan roi cyfanswm o £14,000 o fuddsoddiad.

Mae hyn wedi galluogi Jo nid yn unig i ddiogelu ei swydd ei hun, ond hefyd ail-fuddsoddi'r arian, cynyddu trosiant a chreu swydd ychwanegol.

Yn ogystal, ar ôl sylwi ar yr angen am glustogwaith morol yn yr ardal, lansiodd Jo ei busnes Clustogwaith Tides. Cynghorodd Shahid ar ei chynllun busnes a'i rhagolygon ariannol, gan alluogi'r busnes i sicrhau benthyciad cychwynnol gwerth £5,000 gan y Cwmni Benthyciadau Cychwynnol.

Derbyniodd Jo gymorth arbenigol Adnoddau Dynol gyda recriwtio, contractau cyflogaeth a chydymffurfiaeth gyfreithiol.

Canlyniadau

  • Cymorth busnes i gadw'r oriel ar agor yn ystod Covid-19
  • 1 swydd wedi'i diogelu ac 1 swydd wedi'i chreu
  • Buddsoddiad grant o £14,000 wedi'i sicrhau
  • Cymorth Adnoddau Dynol gyda recriwtio, contractau cyflogaeth a chydymffurfiaeth gyfreithiol
  • Busnes newydd wedi'i lansio gyda buddsoddiad benthyciad cychwynnol ac 1 swydd ychwanegol

Rwyf wedi bod yn hynod werthfawrogol o'r gefnogaeth mae Shahid wedi ei rhoi i mi ar ran Busnes Cymru. Mae wedi bod yno bob amser i ateb fy nghwestiynau ac i'm diweddaru gydag unrhyw wybodaeth a allai fy helpu. Mae ei ddull yn gyfeillgar ac yn ffeind ac rwyf yn dyst i'w dosturi a'i gefnogaeth i'm materion ac anghenion busnes.

Mewn modd mor ddymunol a diffuant, mae wedi fy arwain drwy'r prosesau i gael y cyllid yr oedd ei angen ar fy nau fusnes i oroesi a thyfu er gwaethaf y sefyllfa economaidd yr ydym oll ynddi ar hyn o bryd. Heb gefnogaeth a chymorth Shahid nid oes gennyf amheuaeth na fyddwn wedi deall sut i gael y grantiau yr oeddwn yn gymwys ar eu cyfer a mawr eu hangen, a byddai fy oriel wedi gorfod cau - a hefyd ni fyddai fy musnes clustogwaith newydd erioed wedi cael cychwyn.

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Hoffwn sicrhau adeilad, yn ddelfrydol yn y Mwmbwls, lle gallwn wneud fy ngwaith clustogwaith gydag oriel a stiwdio ar y safle. Nid wyf ar frys, ond mae fy ngwaith clustogwaith ar hyn o bryd yn cymryd ystafell yn fy nghartref, sy'n gwneud pethau braidd yn dynn. 

Mae gen i un aelod o staff sy'n gweithredu'r oriel ddau ddiwrnod yr wythnos ac rwyf yn gobeithio cynyddu ei oriau cyn gynted ag y bydd mwy o ymwelwyr yn dychwelyd i'r Mwmbwls.

Unwaith y byddaf wedi sicrhau'r adeilad, hoffwn gymryd prentis i helpu gyda'r clustogwaith, gan fod cymaint o waith ar gael ac ni allaf ei gwblhau ar fy mhen fy hun. Wrth i fwy o bobl ddod i wybod amdanaf, mae fy rhestr o gwsmeriaid yn tyfu ac mae ymholiadau'n dod i'm rhan ar gyfer pob math o waith. 

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/case-studies neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.