Mae contractwr amaethyddol a pheiriannydd o Lanfair ym Muallt ar gyrch i helpu ffermwyr i dynnu carbon deuocsid o’r atmosffer gan ddefnyddio technoleg newydd.
Diolch i gefnogaeth Busnes Cymru, mae Phil Hughes wedi ehangu ei gwmni, J&H Spreading and Agri Engineering Ltd, i helpu ffermwyr i ymgorffori arfer casglu carbon newydd sy’n defnyddio llwch basalt i’w harferion rheoli tir.
Mae llwch basalt yn cynnig y cyfle i gasglu carbon o’r aer, trwy ei gloi’n ddiogel yn y pridd. Yn ogystal â’r manteision amgylcheddol a’i botensial i gynorthwyo ymdrechion ffermwyr i gyflawni sero net, mae’r broses yn ychwanegu gwerth maethegol ychwanegol er mwyn gwella ansawdd a maint y cnydau.
Er bod y dull o daenu basalt yn newydd iawn, bydd y data ar ei effeithiolrwydd a’i effaith yn elfen bwysig yn yr hyn y gall y busnes ei gynnig i ffermwyr sydd am fabwysiadu’r dull yma o weithio.
Mae Phil wedi bod yn taenu cynnyrch amaethyddol ers ugain mlynedd bellach, ac fe gychwynnodd ei gwmni peirianneg amaethyddol yn 2018. Mae’r cwmni’n arbenigo mewn dylunio ac adeiladu taenellwyr calch pwrpasol, ac mae hi wedi bod yn flaenllaw wrth daenu llwch basalt dros y chwe blynedd diwethaf.
Dywedodd Phil Hughes:
Fe ddarganfyddais i fanteision taenu basalt ar ôl profi’r dull ar fy fferm fy hun a gweld twf digynsail y glaswellt o fewn cwta pedwar mis. Fe sylweddolais i’n gyflym fy mod i wedi dod ar draws rhywbeth nad oedd fawr neb yn ymwybodol ohono ym myd ffermio’r DU, ac y byddai angen i mi adeiladu’r cwmni o gwmpas darparu’r gwasanaeth yma.
Dyna pryd y cysylltodd Phil â Busnes Cymru am arweiniad i ddatblygu cynllun busnes er mwyn denu cyllid preifat i gaffael yr offer a’r dechnoleg angenrheidiol.
Trwy weithio gyda Rheolwr Perthnasau Busnes Cymru, Phil Summers, daeth hi’n amlwg fod nifer y darpar-gwsmeriaid a allai elwa ar wasanaethau taenu llwch basalt yn uwch na’r disgwyl. Mae’n credu bellach y gallai’r cynnyrch gael ei ddefnyddio i helpu nifer o ffermydd a busnesau ar eu ffordd i gyflawni eu nodau sero net.
Cafodd gobeithion Phil ar gyfer yr arfer eu hategu gan yr Ymgynghorydd Datgarboneiddio, Sarah Gore. Bu modd i Sarah gysylltu Phil a’r Gymdeithas Pridd i gadarnhau bod modd galw’r cynnyrch yn organig.
Dywedodd Rheolwr Perthnasau Busnes Cymru, Phil Summers:
Mae gwaith Phil i hybu’r defnydd o lwch basalt yn esiampl ragorol o sut y gall busnesau llai dorri tir newydd yn eu sectorau. Ond mae troi darganfyddiad newydd yn gwmni hyfyw yn broses ymestynnol. Mae hi’n rhoi boddhad mawr i mi weld sut mae cyrchu cymorth arbenigol trwy wasanaeth Busnes Cymru wedi helpu i sefydlu BBaCh Cymreig, ac wedi galluogi iddo ddod â gwasanaeth a allai fod yn chwyldroadol i’r farchnad.
Aeth Phil Hughes ymlaen i ddweud:
Rwy’n ddiolchgar dros ben am y cymorth a’r arweiniad rydyn ni wedi eu cael gan dîm Busnes Cymru, a Sarah Gore yn arbennig am rannu ei gwybodaeth arbenigol am secretiad carbon gan ddefnyddio basalt.
Nawr mae’r cwmni’n bwriadu ehangu a rhoi gweithdrefnau ar waith sy’n dangos sut y gall ei wasanaethau gyflawni sero net, mewnosod carbon a gwrthosod carbon, ynghyd ag archwiliadau a phrofion llawn o gydymffurfiaeth er mwyn dileu unrhyw botensial ar gyfer gwyrddolchi.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gredydau carbon yma: Masnachu credydau carbon: canllawiau ar gyfer ffermwyr a thirfeddianwyr | LLYW.CYMRU
Mae Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i ddarganfod cyfleoedd newydd ar gyfer twf, ac i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ewch i Hafan | Busnes Cymru neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.