BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Pendragon Drafting

Pendragon Drafting

Cwmni costau cyfreithiol a chyfryngu yn Ne Cymru yn cyrraedd mwy o bobl gyda diolch i raglen fentora Busnes Cymru

Sefydlodd David Bentley-Miller ei gwmni costau cyfreithiol a chyfryngu, Pendragon Drafting, yn 2011, ac ers hynny mae wedi datblygu'r cwmni i gynnig ystod eang o wasanaethau cyfreithiol. Cysylltodd â gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru i gael cymorth i dyfu ei fusnes, ac yn fuan ar ôl hynny, sefydlodd berthynas weithio lwyddiannus gyda mentor busnes gwirfoddol er mwyn derbyn cyngor ar ei strategaeth farchnata, ymwybyddiaeth brand a hyrwyddo.

Cyflwyniad i'r busnes

Sefydlwyd Pendragon Drafting gan David Bentley-Miller yn 2011. Mae'r busnes wedi'i leoli yng Nghastell Nedd, ac mae'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau cyfreithiol, gan gynnwys drafftio costau cyfreithiol a chyfryngu sifil a masnachol. Maent yn arbenigo mewn costau ymgyfreitha sifil, materion y llys gwarchod ac esgeulustod meddygol, ymhlith eraill.

Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?

Gadewais yr ysgol heb unrhyw gymwysterau ac yn gweithio sawl swydd wahanol. Fodd bynnag, pan roeddwn yn 27 oed, cefais le ym Mhrifysgol Cymru i astudio'r gyfraith fel myfyriwr hŷn. Ar ôl graddio yn 2000, gweithiais mewn swyddi datblygu busnesau ar gyfer Ymgynghoriaeth Cyfraith Iechyd a Diogelwch a Chyflogaeth Genedlaethol. Yna, gweithiais gydag ychydig o gwmnïau cyfreithiol yng Nghymru, fel Rheolwr Datblygu Busnes. Ond yn ystod y cyfnod hwn gwaethygodd fy iechyd meddwl. Ar ôl treulio cyfnod gartref a methu gweithio, cefais ddiagnosis o anhwylder affeithiol deubegynol. Ar y pryd, roeddwn yn teimlo y byddai hyn yn rhwystr enfawr i mi rhag cael swydd yn y sector cyfreithiol, a theimlais mai'r unig beth i'w wneud oedd gweithio i mi fy hun.

Roeddwn wedi clywed am ddrafftwyr costau cyfreithiol, ond doeddwn ddim yn gwybod llawer am eu gwaith. Edrychais yn fanylach ar y gwaith, a sut i gael hyfforddiant yn y maes. Dyma le des i ar draws problem. Cysylltais â nifer o gwmnïau yma yng Nghymru i weld a fyddai rhywun yn fodlon fy hyfforddi, ond doedd neb eisiau gwneud hynny. Cynigiodd un sefydliad gwrs hyfforddi cydnabyddedig, ond roedd yn rhaid i mi fod yn gweithio mewn cwmni i gael lle ar y cwrs. Felly roeddwn mewn cyfyng-gyngor!

Penderfynais wneud popeth o fewn fy ngallu i hyfforddi fy hun. Dros amser, roeddwn yn cwblhau'r gwaith yn dda, ac fe amsugnais cymaint o wybodaeth â phosib. Teimlais na fyddwn yn gyflogai da gan fy mod yn dioddef iechyd meddwl gwael. Nawr, rwy'n sylweddoli mai'r salwch oedd yn gwneud i mi feddwl hynny, ac nad oedd hynny'n wir.

Pa heriau a wyneboch?

Yr her gyntaf oedd perswadio cyfreithwyr i roi cyfle i mi ddangos iddyn nhw fy mod yn fedrus yn fy ngwaith, ac i ymddiried ynof fi i weithio ar eu ffeiliau. Yn ffodus, mae fy nghleientiaid cyntaf yn gweithio gyda mi hyd heddiw.

Her arall oedd brwydro yn erbyn cyfnodau o hwyliau drwg difrifol. Dysgais fod gweithio yn tynnu fy sylw oddi wrth y cyfnodau tywyll, ac mewn dim roedd gweithio'n obsesiwn. Roedd cleientiaid yn anfon gwaith ataf, ac yn hytrach na chymryd dwy neu dair wythnos i'w gwblhau (fel cwmnïau eraill yn y maes), roeddwn yn anfon y gwaith yn ôl o fewn yr un wythnos. Ond wrth wneud hyn, roeddynt yn anfon mwy a mwy o waith ataf.

Roedd llif arian yn her sylweddol ar ddechrau'r daith. Nid oeddwn yn gwneud dim elw rhai misoedd. Wrth gwblhau gwaith, byddai'n cymryd rhai misoedd i dderbyn tâl. Rwy'n cofio gofyn i fy mancwyr am gyfleuster gorddrafft i'm cynnal drwy gyfnod anodd, ond fe wrthodon nhw. Ni anghofiais hynny, ac ar ôl i mi gychwyn gwneud elw, newidiais fanciau'n syth. Teimlais, os nad oedden nhw eisiau fy helpu drwy gyfnodau anodd, doedden nhw ddim am elwa oddi wrthyf yn y cyfnodau da.

Roedd marchnata yn her sylweddol arall. Bellach, roeddem wedi creu enw da o fewn ein maes, ond nid oedd gennym syniad na strategaeth ar gyfer cyrraedd cleientiaid bosib eraill. Roeddem yn ystyried marchnata fel 'maes estron'. Fodd bynnag, gwyddom fod rhaid gwneud rhywbeth. Fe gysyllton ni gyda Busnes Cymru ar yr adeg hon, i weld a oedd ganddynt gyngor i'w gynnig.

Cymorth Busnes Cymru

Cysylltodd David gyda Busnes Cymru gan ei fod eisiau ehangu ei fusnes a chyflogi mwy o staff. Roedd angen cymorth i ddenu mwy o gleientiaid a chyrraedd mwy o bobl. Cafodd gymorth gan gynghorydd twf, a chafodd ei baru gyda mentor gwirfoddol Busnes Cymru, Mark Tudor, i gael cymorth gyda marchnata.

Canlyniadau

Mae ein Mentor, Mark Tudor, wedi rhoi ffocws a chynllun gweithredu i ni i'n helpu i gyflawni ein cynlluniau twf. Am y tro cyntaf mae gennym rywbeth i weithio arno ar ffurf dogfen a chynllun go iawn.

Yr hyn oedd fwyaf trawiadol oedd ei allu i ddeall y busnes yn gyflym, a chreu cynllun i'n helpu ni wella ein gweithgarwch presennol, a rhoi hyder i ni edrych ar farchnadoedd newydd fel ffynonellau incwm ychwanegol.

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Rydym yn gobeithio ehangu'r practis yn ystod y tair blynedd nesaf, gan gadw gafael ar ein cleientiaid presennol, sef yr elfen fwyaf gwerthfawr o fewn ein busnes. Rydym hefyd eisiau cynyddu'r nifer o wasanaethau rydym yn eu cynnig.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/case-studies neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.