BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Peter Jones (ILG) Ltd

Peter Jones (ILG) Ltd

Mae Busnes Cymru wedi bod yn ffynhonnell hynod o werthfawr o gefnogaeth ar gyfer ein busnes. Rydym wedi derbyn cyngor gan arbenigwyr yn eu maes ar faterion amgylcheddol a chynaliadwyedd. Roeddem yn gallu prynu peiriannau gyda’r Grant Gwytnwch Brexit gan Busnes Cymru a oedd yn caniatáu i ni weithgynhyrchu rhai cydrannau’n hunan-gynhaliol yn fewnol.

Mae Peter Jones (ILG) Ltd, busnes teuluol yn y Fenni, wedi bod yn cynhyrchu datrysiadau cludo arloesol ar gyfer offer diogelwch a chyfathrebu ers 1967. Dros y blynyddoedd, mae dyluniadau arloesol y cwmni, a wneir o gyfuniad o ledr o ansawdd uchel, mowldinau neilon cryf a deunyddiau synthetig modern eraill, wedi helpu i'w ddyrchafu i fod yn un o'r cyflenwyr y mae'r galw mwyaf amdano ar draws y byd.

Daeth y Cyfarwyddwr Morgan Jones at Busnes Cymru i ddechrau am gyngor ynghylch datblygu eu systemau amgylcheddol a chynaliadwyedd. 

Ers y cyswllt cychwynnol hwn, mae Morgan wedi gweithio gydag amrywiaeth o gynghorwyr busnes medrus i roi eu system rheoli amgylcheddol ISO 14001 ar waith a chyflawni eu huchelgais i ddod yn fusnes fwy cynaliadwy.

Maent yn bwriadu ailgylchu eu gwastraff lledr fel rhan o’u strategaeth i wella cynaliadwyedd ac maent wedi creu eu Polisi Ansawdd ac Amgylcheddol eu hunain i arddangos eu cyfrifoldeb i leihau effaith eu gweithrediadau ar yr amgylchedd.

Mae’r cymorth parhaus wedi galluogi Morgan i sicrhau grant gan Gronfa Gwytnwch Brexit, a alluogodd y busnes i liniaru effaith Brexit ac i ddiogelu swyddi yn ogystal â gallu creu swyddi ychwanegol erbyn hyn.

Cysylltwch â ni heddiw i gysylltu â chynghorydd busnes hynod wybodus er mwyn gweld pa gefnogaeth sydd ar gael i chi a’ch busnes.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/case-studies neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.