BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Said with Notes

Said with Notes

Dylunydd graffeg o Gasnewydd yn troi ei hobi'n fusnes rhan-amser, diolch i gefnogaeth Busnes Cymru.

Yn dilyn colli ei swydd oherwydd Covid-19, penderfynodd Lea White o Gasnewydd droi ei hobi yn fusnes a dechrau Said with Notes, gan gynnig dyluniadau a deunydd ysgrifennu ar gyfer amrywiaeth o achlysuron arbennig. Cysylltodd Lea â gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru am gymorth ac ers hynny mae wedi gweithio gydag ymgynghorydd busnes ar sefydlu ei menter, yn barod i'w lansio ym mis Medi 2020.

  • Cymorth dechrau
  • Lansiwyd yn llwyddiannus yn ystod pandemig Covid-19
  • Wedi ymrwymo i’r Addewid Twf Gwyrdd

Cyflwyniad i’r busnes

Penderfynodd Lea White, dylunydd graffeg profiadol, fuddsoddi ei hangerdd dros ddylunio a dechrau ei busnes ei hun. Mae Said with Notes yn cynnig deunyddiau priodas pwrpasol o gardiau 'cadw'r dyddiad' i gynlluniau eistedd a threfn y gwasanaeth, yn ogystal â deunydd ysgrifennu ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau ac achlysuron arbennig, gan gynnwys penblwyddi, partïon ieir, cawodydd babis a'r Nadolig, ymhlith eraill.

Pam wnaethoch chi benderfynu sefydlu eich busnes eich hun?

Rydw i wastad wedi bod â diddordeb mewn deunydd ysgrifennu, yn enwedig gwahoddiadau priodas. Yn fuan ar ôl fy mhriodas fy hun yn 2018, dechreuais ddylunio ar gyfer ffrindiau a fy nheulu – ac arweiniodd hyn yn y pen draw at Said with Notes. Dechreuais ochr yn ochr â'm swydd lawn amser fel Dylunydd Creadigol.

Pa heriau wnaethoch chi eu hwynebu?

Yr her fwyaf rwyf wedi’i hwynebu yw Covid-19. Oherwydd y gwesteion priodas cyfyngedig, mae llawer o gyplau wedi gorfod oedi, gohirio neu hyd yn oed ganslo eu priodasau, sydd wedi effeithio ar y busnes. Fodd bynnag, heb y pandemig, ni fyddwn wedi cael fy niswyddo o'm swydd dylunio creadigol ac ni fyddwn wedi cael amser i ganolbwyntio ar Said with Notes. O'r diwedd, roeddwn i'n gallu creu gwefan a lansio'n iawn gyda Busnes Cymru yn fy nghefnogi ar hyd y ffordd.

Cymorth Busnes Cymru

Cysylltodd Lea â Busnes Cymru am help i ddechrau ei busnes deunydd ysgrifennu priodas. Mynychodd weminar i fusnesau newydd ac yna cafodd gymorth un-i-un gan yr ymgynghorydd busnes Melanie Phipps.

Cefnogodd Mel Lea gyda materion eang, gan gynnwys cynllunio busnes, ymchwil i'r farchnad, marchnata, gweithio gartref, prisio, yswiriant, treth, Yswiriant Gwladol a rhagolygon llif arian. Roedd hyn yn caniatáu i Lea droi ei hobi yn fusnes rhan-amser ac fe lansiodd Said with Notes yn llwyddiannus ym mis Medi 2020.

Ymunodd Lea hefyd â menter cynaliadwyedd Busnes Cymru, yr Adduned Twf Gwyrdd, ac mae wedi ymrwymo i ddefnyddio cadwyn gyflenwi foesegol, lleihau gwastraff, defnyddio adnoddau'n effeithlon a darparu deunydd pacio ailgylchadwy, lle bynnag y bo modd.

Canlyniadau

  • Cymorth dechrau
  • Lansiwyd yn llwyddiannus yn ystod pandemig Covid-19
  • Wedi ymrwymo i’r Addewid Twf Gwyrdd

Cysylltais â Busnes Cymru am y tro cyntaf am rywfaint o gefnogaeth a chyngor. O ddechrau'r daith, roedd yn un dymunol: o'r cyswllt cychwynnol hyd at lansio Said with Notes, mae'r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel. Cefais gyfle i ymuno â gweminarau rhithwir byw ac yna gweithio gyda fy ymgynghorydd busnes Mel, sydd wedi bod mor gefnogol a llawn gwybodaeth drwy gydol y profiad cyfan.

Cynlluniau ac uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol

Mae gen i gynllun araf a chyson ar gyfer Said with Notes lle byddaf yn parhau i weithio ar offer ysgrifennu priodas ac yn agor fy nyluniadau'n araf i achlysuron eraill fel penblwyddi, cawodydd babis, dyweddïadau, ac ati. Yn y pen draw, rwyf am ddod yn siop un stop ar gyfer cyflenwadau deunydd ysgrifennu ar gyfer pob achlysur.

Os ydych am ddarllen mwy o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chi i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu ddilyn @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.