BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Sanondaf Gogledd Cymru

Sanondaf North Wales

Mae cangen Gogledd Cymru o’r busnes diheintio di-gyffwrdd mwyaf yn y DU yn lansio’n llwyddiannus gyda chymorth Busnes Cymru.

Ar ôl 36 mlynedd yn Airbus, penderfynodd Dominic Tyson fanteisio i’r eithaf o fod yn fos ar ei hun o’r diwedd ac aeth amdani i ddechrau ei fusnes ei hun.

Gyda chefnogaeth dechrau busnes gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, dechreuodd Sanondaf Gogledd Cymru fasnach fis Chwefror 2021. 

  • Wedi dechrau busnes newydd yn llwyddiannus.
  • Wedi creu 2 swydd.
  • Wedi mabwysiadu polisïau AD ac amgylcheddol i helpu gyda chynaliadwyedd a thwf y busnes yn y dyfodol.

Cyflwyniad i’r busnes

Wedi cael ei ddechrau gan Dominic Tyson a’i bartner busnes Graham Matthews, mae Sanondaf Gogledd Cymru yn rhan o’r cwmni diheintio di-gyffwrdd arbenigol mwyaf y DU. Mae’r busnes yn darparu systemau diheintio sy’n lladd 99.9% o feirysau, bacteria a germau’n ddiogel, heb arogl na pheryglon iechyd i fodau dynol, anifeiliaid neu blanhigion, gan ddefnyddio chwistrellwyr trydanol a pheiriannau niwl, sy’n cael eu datblygu’n fewnol. 

Dyma oedd gan Dominic i’w ddweud am ei daith o Airbus i fod yn fos ar ei hun.

Pam gwnaethoch chi benderfynu sefydlu eich busnes eich hun? 

Cysylltais gyda Busnes Cymru a’m hymgynghorydd Sian Jones am y tro cyntaf fis Medi 2019, oherwydd ro’n i’n meddwl am sefydlu fy musnes fy hun. Rwyf wedi bod yn gweithio gydag Airbus (British Aerospace a BAe Systems gynt) ers 36 mlynedd a phenderfynais fy mod eisiau herio (a phrofi) fy hun drwy redeg fy nghwmni fy hun am weddill fy oes gweithio. 

Mynychais y gweithdy “Dechrau a Rhedeg Busnes - Mynd Amdani”, a hwyluswyd gan Sian, ac ychwanegodd at fy awydd i fod yn fos ar fy hun hyd yn oed yn fwy.

Er bod gen i brofiad helaeth o’r maes busnes, sylweddolais nad oeddwn yn gwybod llawer am sefydlu a rhedeg cwmni bach, ac felly, penderfynais mai prynu cangen fyddai’r ffordd orau a chyflymaf (a mwyaf diogel) o gyflawni’r targed hwn. Rwy’n dweud ‘mwyaf diogel’ oherwydd roedd gen i ddiddordeb mewn prynu i mewn i frand sefydledig a chael y gefnogaeth wrth gefn i’m cefnogi drwy’r camau cynnar. Dyma wnaeth fy nenu i Fusnes Cymru. 
Roedd angen i mi ddysgu’n gyflym am hanfodion rhedeg busnes megis trethi a chadw llyfrau, marchnata a strwythur cwmni, h.y. masnachwr unigol vs cwmni cyfyngedig. 

Yn y pen draw, penderfynais ar y gangen Sanondaf oherwydd y “gwasanaethau diheintio di-gyffwrdd” yr oeddent yn eu darparu, ac roedd y ffaith eu bod yn datblygu eu peiriannau a’u hoffer eu hunain yn apelio at fy nhueddiad a’m cefndir peirianneg. Cofiwch fod hyn cyn Covid-19, felly roedd hyn ar fin dod yn fwy perthnasol nag erioed.

Treuliais yr ychydig fisoedd nesaf yn ymchwilio model busnes Sanondaf i geisio deall potensial yn y farchnad yng Ngogledd Cymru, a pha gyllid oedd angen i mi ei drefnu.

Yn amlwg, roedd pandemig Covid-19 wedi cymryd drosodd ychydig fisoedd cyntaf 2020 yn llwyr, a ro’n i’n canolbwyntio ar ddiogelu fi fy hun a fy nheulu’n fwy na dim.

Ym mis Mawrth 2020, roedd Airbus yn profi trafferthion ariannol difrifol oherwydd nifer fawr o archebion yn cael eu canslo a diffyg galw teithio awyrol. Yna, rhoddodd gyfle i bob cyflogai i Ddiswyddo’n Wirfoddol. Felly, dyma’r cyfle perffaith i fynd amdani, a chofrestrais ar unwaith. 

Am sawl rheswm, roedd y broses ddiswyddo’n hir a chymhleth, felly defnyddiais yr amser hwn i gysylltu â Sanondaf a chreu fy nghynllun busnes.  

Cefais fy niswyddo o’r diwedd gan Airbus ar ddiwedd mis Ionawr 2021, ac yn ystod wythnos gyntaf mis Chwefror, ro’n i ym Mhencadlys Sanondaf yn Glasgow yn ymgymryd â hyfforddiant dwys gyda fy mhartner busnes, Graham Matthews. 

Gwnaethom ddechrau masnachu fel Sanondaf Gogledd Cymru ym mis Chwefror, a hoffwn sôn yn arbennig am Lydia Swinton o Options Autism Kinsale am fod ein cwsmer cyntaf, am fod â hyder ynom ni ac am roi cyfle i ni i ddechrau ar ein menter fusnes newydd yng ngogledd Cymru.  

Ers hynny, rydym wedi mynychu sawl cwrs marchnata digidol Cyflymu Cymru i Fusnesau, ac rydym yn edrych ymlaen at gefnogaeth bellach yn y maes hwn, oherwydd dyma ble rwyf angen y mwyaf o arweiniad!

 
Cefnogaeth Busnes Cymru

  • Wedi llwyddo i ddechrau busnes newydd.
  • Wedi creu 2 o swyddi.
  • Wedi mabwysiadu polisïau AD ac amgylcheddol i helpu gyda chynaliadwyedd a thwf y busnes yn y dyfodol.

Gyda chymorth Sian, penderfynom gofrestru ar bob cwrs a argymhellodd hi yn ein trafodaethau a datblygu strategaeth fyddai’n fwyaf buddiol i mi. Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod wedi gwerthfawrogi’r help yn ofnadwy! 

Ers hynny, rydym wedi cael llawer o gyfarfodydd i ddilyn i fyny ac adolygu cynnydd a datblygu’r camau nesaf. Roedd Sian yn gefnogol iawn bob amser a chynigiodd gyngor a chanllawiau’n rheolaidd ar bwy oedd angen i mi gysylltu â nhw pe byddai angen gwybodaeth benodol arnom ni. Sicrhaodd fy mod yn canolbwyntio ar y camau gweithredu mwyaf brys a phwysicaf yr oedd angen i mi weithio arnynt. 

Cynlluniau ac uchelgeisiau yn y dyfodol

Ni allaf ddiolch digon o Fusnes Cymru, Cyflymu Cymru i Fusnes ac yn benodol, Sian Jones am yr holl gymorth a chyngor ar ddim yr wyf wedi’i dderbyn gydol fy nhaith at ddechrau busnes newydd. ‘Dw i’m yn meddwl y byddwn i wedi gallu cyflawni hyn heb y gefnogaeth, a dyma’r prif reswm pam mae’r broses wedi bod yn ddi-boen a straen i mi.

Gobeithio y gallwn wneud Sanondaf Gogledd Cymru yn llwyddiant, a pharau i dyfu’r busnes at bwynt lle byddaf yn gallu cyflogi rhai gweithwyr. Yna, byddaf yn galw ar Fusnes Cymru eto i fy helpu gyda cham nesaf ein datblygiad! 

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl fel chi i ddechrau neu dyfu eu busnes, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_busnescymru ar Twitter.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.