BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Spokesperson

Spokesperson

Menter gymdeithasol sy’n estyn allan i gymunedau ar y cyrion er mwyn eu cael i seiclo.

Mae menter gymdeithasol yng Nghaerdydd sy’n cynnig atgyweirio a gwerthu beiciau yn helpu pobl o gymunedau ar y cyrion i fynd ati i seiclo. Wedi elwa o wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, mae’r perchennog Willoughby Zimmerman hefyd yn rhedeg dosbarthiadau cynnal a chadw gan gynnwys sesiynau am ddim i ferched a phobl LGBTQ+.

  • creu 1 swydd
  • ymgorfforwyd Spokesperson yn llwyddiannus fel CIC

Cyflwyniad i fusnes

Yn ddiweddar, sefydlodd Willoughby Zimmerman eu busnes eu hunain, Spokesperson,  yng Nghaerdydd yn cynnig atgyweirio beiciau, gwerthu beiciau a gweithdai. Ar ôl ei sefydlu fel menter budd cymunedol, mae Willoughby hefyd yn anelu at estyn allan i gymunedau ar y cyrion, gan gynnwys merched a LGBTQ+, trwy noddi reidiau a digwyddiadau er mwyn cael mwy o bobl i fwynhau seiclo.

Beth wnaeth i chi benderfynu sefydlu eich busnes eich hun?

Penderfynais Spokesperson sefydlu fy musnes fy hun am amryw o resymau, ond mae dau sy’n sefyll allan. Yn gyntaf, mae’r model traddodiadol o siopau beic mewn trafferth gwirioneddol. Mae siopau beic bychain yn cau trwy’r amser, a hyd yn oed cewri cenedlaethol fel Evans yn mynd i’r wal ac yn gorfod cael eu prynu allan. Mae angen model busnes newydd, cymuned ganolog, mwy amrywiol ar siopau beic, a dyma’r model newydd yr wyf i’n ceisio ei adeiladau (mae fy musnes yn CIC – cwmni buddiant cymunedol).   

Yn ail, rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd ar hyn o bryd ac mae angen i ni chwyldroi’r modd yr ydym yn cludo pobl a nwyddau o amgylch dinasoedd (mwy o feiciau, llai o geir) a’r modd yr ydym yn gwneud busnes (mwy cynaliadwy, llai cystadleuol). Yn syml, rwyf yn actifydd, a fy nod yw cael mwy o benolau ar seddi beic.

Cymorth Busnes Cymru

Mynychodd Willoughby weithdy cychwynnol Busnes Cymru, lle gallent ymchwilio a chynllunio eu syniad busnes yn fwy manwl, diffinio brand perthnasol a diddorol, dod o hyd i adeilad addas a chreu cynllun busnes sylfaenol.  Ers hynny maen nhw wedi gweithio gydag Ymgynghorydd Twf, Miranda Bishop, i gwblhau eu chynllun busnes a’i rhagolygon ariannol, eu rhestr brisiau a’i strategaeth werthu gychwynnol, yn ogystal â brandio a marchnata a chyfryngau cymdeithasol.

Galluogodd hyn Willoughby i lansio Spokesperson yn llwyddiannus yn haf 2019.

Deilliannau  

  • creu 1 swydd
  • lansiad llwyddiannus

Mae Miranda yn anhygoel. Mae ehangder ei harbenigedd wedi creu argraff arnaf, yn ogystaI â’i gwybodaeth benodol am fentrau cymdeithasol.  Mae ganddi bob amser gyngor cadarn a chyfoeth o syniadau. Rwyf wedi dotio at ba mor ymroddedig a chymwynasgar y mae Busnes Cymru wedi bod, Miranda’n enwedig.

Cynlluniau ac uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol

Fy nghynlluniau ar gyfer y dyfodol yw cael busnes sy’n gynaliadwy yn economaidd ac yn amgylcheddol, gyda rhaglenni cymdeithasol llwyddiannus yn cyd-redeg â’r atgyweirio a gwerthu beiciau traddodiadol. Yn y pen draw, hoffwn ehangu’r busnes trwy gyflogi gweithwyr sydd, fel fi, yn dod o gymunedau ar y cyrion, a thrwy wneud hynny, rhoi hyfforddiant a phrofiad iddynt er mwyn eu “tynnu i fyny’r ysgol” gyda mi. 

Pe hoffech ddarllen mwy o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chi i sefydlu neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.