BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Taste Of Turner

Taste Of Turner

Mae Busnes Cymru wedi fy helpu i sefydlu busnes fy hun o’r hyn rwy’n frwd drosto, Mae Taste of Turner wedi mynd o nerth i nerth.

Lansiwyd Taste of Turner​​​​​​, sydd wedi’i ysbrydoli gan fwydydd y Caribî, ym mis Awst 2020, pan gymerodd iechyd meddwl Simon Turner dro er gwaeth. Gyda’i frwdfrydedd dros goginio bwydydd ei dreftadaeth, pan ddaeth o hyd i focs yn yr atig yn llawn cardiau ryseitiau o Saint Lucia drwy gyd-ddigwyddiad, dechreuodd syniad busnes Simon siapio.

Ar ôl dechrau masnachu, cynigiodd ei ymgynghorydd busnes ychydig o gyngor ac arweiniad ynghylch rhedeg a thyfu’r busnes. Sefydlwyd cynllun busnes a strategaeth twf clir, a chyflwynwyd Simon i’r Cwmni Benthyciadau i Gychwyn ar gyfer cymorth ariannol.

Mae Simon hefyd wedi ymrwymo i’r Addewid Twf Gwyrdd drwy ddefnyddio pecynnau y gellir eu hailgylchu, hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant, a chefnogi gweithgareddau a digwyddiadau cymunedol lleol.

Ar ôl profi llwyddiant ac adolygiadau gwych, mae Taste of Turner yn dymuno ehangu’r busnes, gyda lleoliad penodol posibl ym Mhenarth.

A oes gennych chi syniad busnes ac angen cymorth? Cysylltwch â ni heddiw.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.