BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

A yw eich busnes chi’n cynllunio digwyddiad?

Mae dyletswydd ar drefnydd digwyddiad i gynllunio, rheoli a monitro’r digwyddiad er mwyn gwneud yn siŵr nad yw gweithwyr a’r cyhoedd yn agored i risgiau iechyd a diogelwch.

Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wybodaeth er mwyn:

  • helpu trefnydd i ddeall ei ddyletswyddau cyfreithiol mewn perthynas ag iechyd a diogelwch
  • cynllunio digwyddiad
  • rheoli digwyddiad
  • cynllunio ar gyfer achosion brys ac argyfyngau
  • adolygu digwyddiad ar ôl iddo orffen

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan HSE.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.