BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Academi Ddigidol Werdd

Eco concept, ecology, clean energy and environment protection.

Mae'r Academi Ddigidol Werdd yma i helpu busnesau sy'n gweld gwerth mewn defnyddio technoleg ddigidol newydd, cyflymu effeithlonrwydd, lleihau allyriadau carbon a lleihau costau.

  • Ydych chi'n fusnes micro, bach neu ganolig wedi'i leoli yn siroedd Môn, Gwynedd, Conwy, Dinbych neu'r Fflint?
  • Hoffech chi fod yn fwy gwyrdd a lleihau eich ôl troed carbon?

Drwy'r prosiect byddwch yn gallu cael mynediad at gefnogaeth ymgynghorol, a ariennir yn llawn, gan fentor arbenigol a fydd yn gweithio gyda chi i werthuso ble mae eich busnes chi heddiw.

Bydd yn eich helpu i gynnal asesiad diagnostig sero net o allbwn carbon eich busnes a'ch gweithwyr, gan gynnwys teithio mewn car, defnyddio ynni, gwaredu gwastraff a defnyddio deunyddiau, yn ogystal ag asesiad manwl o alluoedd digidol. Bydd hyn yn arwain at adroddiad unigol a map pwrpasol ar gyfer eich busnes.

Yna bydd yn gweithio gyda chi i ddatblygu cynllun a fydd yn eich helpu i gael cyllid a hyfforddiant i ymgysylltu'n llwyddiannus â thechnoleg ddigidol a'i defnyddio i leihau eich ôl troed carbon, ac i gefnogi'r gwaith o gyflwyno map ar gyfer eich busnes.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Academi Ddigidol Werdd | Busnes@LlandrilloMenai (gllm.ac.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.