BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

ACAS yn cyhoeddi cyngor newydd ar Covid hir i gyflogwyr

Gall Coronafeirws (COVID-19) achosi symptomau sy’n para wythnosau neu fisoedd i rai ar ôl i’r haint fynd. Yn aml defnyddir y term COVID hir ar gyfer hyn ac mae’n cael effaith ar fusnesau wrth i weithwyr sydd wedi’u heffeithio geisio dychwelyd i’r gwaith.

Mae ACAS wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer cyflogwyr am yr effaith y gallai Covid hir ei chael ar weithwyr. Mae’r canllawiau yn rhoi arweiniad ymarferol i gyflogwyr ar reoli gwahanol effeithiau'r cyflwr ynghyd ag opsiynau amrywiol a all helpu i gael staff yn ôl i’r gwaith yn ddiogel.

Darllenwch y canllawiau yma: 
https://www.acas.org.uk/long-covid 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.