BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Accelerate to Net Zero: cofrestrwch ar gyfer y gyfres o ddigwyddiadau byd-eang

Mae'r Ymddiriedolaeth Garbon wedi cyhoeddi eu cyfres o ddigwyddiadau rhithwir byd-eang, a gynhelir rhwng 10 a 24 Ionawr 2023.

Bydd digwyddiad rhithwir Accelerate to Net Zero: Europe yn cael ei gynnal ar 11 Ionawr 2023.  Bydd y rheiny sy'n mynychu yn dysgu mwy am yr heriau busnes a'r cyfleoedd ar eu llwybr i gyrraedd allyriadau Sero Net.

Cewch glywed gan arweinwyr hinsawdd yn Ewrop ar sut i gynyddu cyflymder a graddfa gweithredu ar yr hinsawdd sydd ei angen i droi uchelgeisiau Sero Net yn effaith.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Europe - Accelerate to Net Zero_ 2023 (carbontrust.com)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.