BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Adnodd Asesu Risg Gweithlu COVID-19

Mae gan gyflogwr ddyletswydd gofal i ddiogelu iechyd a'ch diogelwch yn y gwaith, ac mae hyn yn cynnwys deall os ydych mewn categori risg uwch o COVID-19. Mae'r ddyletswydd gofal hon yn cynnwys sicrhau bod yr holl staff yn cael eu trin yn deg, beth bynnag eu hethnigrwydd neu nodweddion gwarchodedig eraill.

Cafodd yr adnodd yma ei ddatblygu ar gyfer maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ond gall o gael ei ddefnyddio mewn unrhyw weithle. 

Mae’r Adnodd yn gofyn nifer o gwestiynau sydd wedi’u llunio i nodi a ydych chi mewn perygl uwch o Covid-19. Mae’n gofyn cwestiynau am iechyd, pwysau ac ethnigrwydd, a allai gynyddu eich risg o salwch difrifol ar ôl cael eich heintio â Covid-19.

Mae’n cynnwys tabl sgorio syml, y gellid ei drosglwyddo i weithleoedd a sectorau eraill.

Gallwch lawrlwytho’r adnodd yma.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan LLYW.cymru.

Os ydych chi'n ystyried beth sydd angen i chi ei wneud i ailddechrau eich busnes yn ddiogel, mae’r tudalennau canlynol gyda chanllawiau manwl, enghreifftiau ac adnoddau i'ch helpu, ewch i wefan Diogelu Cymru yn y Gweithle.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.