BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Adolygiad o ddiogelwch cynnyrch y DU: galwad am dystiolaeth

Mae Llywodraeth y DU yn gwahodd safbwyntiau ar y dull hirdymor o sicrhau diogelwch cynnyrch a sut i sicrhau bod y fframwaith rheoleiddio yn addas ar gyfer y dyfodol.

Mae’n byd yn newid ac mae’n bwysig bod y fframwaith sy’n diogelu defnyddwyr rhag cynhyrchion peryglus yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru os oes angen, er mwyn rhoi sylw i gynhyrchion neu fodelau busnes newydd ac arloesol.

Mae’r ymgynghoriad yn ceisio safbwyntiau o’r meysydd canlynol:

  • cynllunio, gweithgynhyrchu a gosod cynhyrchion ar y farchnad
  • modelau cyflenwi newydd
  • cynhyrchion newydd a chylchoedd oes cynhyrchion
  • ystyriaethau gorfodi
  • fframwaith diogelwch cynnyrch amrywiol a chynhwysol

Mae’r ymgynghoriad yn cau ar 11:45 pm ar 3 Mehefin 2021.

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.