BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

Cyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Yn 2019, lansiodd Defra yr ymgynghoriad ar Gyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes yn Lloegr, ar y cyd â Llywodraeth Cymru a’r Department of Agriculture, Environment and Rural Affairs yng Ngogledd Iwerddon.

Nod yr ymgynghoriad oedd cyflwyno cynllun dychwelyd ernes, a fyddai'n lleihau sbwriel, hybu lefelau ailgylchu ar gyfer deunydd perthnasol, cynnig posibilrwydd gwell o gasglu mwy o ddeunyddiau o'r radd flaenaf a hyrwyddo ailgylchu drwy labelu clir a negeseuon i ddefnyddwyr.

Bydd yr ail ymgynghoriad hwn yn adeiladu ar yr un cyntaf, gan gynnig cyfle i archwilio ymhellach faint o awch ac awydd parhaus sydd am gynllun dychwelyd ernes mewn cyd-destun 'ôl-Covid'. 

Daw'r ymgynghoriad i ben ar 4 Mehefin 2021. Am fwy o fanylion, ewch i hyb yngynghori Defra.

Cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr ar gyfer deunydd pacio

Mae'r ymgynghoriad yn cyflwyno cynigion ar gyfer cyflwyno 'Cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr ar gyfer deunydd pacio'. Mae'r ail ymgynghoriad yn ceisio barn ar draws y diwydiant, yn ogystal ag aelodau'r cyhoedd, ar sut y bydd y cynllun yn gweithredu i sicrhau ei fod yn cyflawni'r canlyniadau a ddymunir. Mae manylion yr ymgynghoriad cyntaf i'w gweld yn GOV.UK.

Bydd ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn helpu i lywio penderfyniadau polisi terfynol ar agweddau allweddol ar y cynllun, megis llywodraethu, targedau ailgylchu ac amserlenni gweithredu.

Daw'r ymgynghoriad i ben ar 4 Mehefin 2021. Am fwy o fanylion, ewch i hyb ymgynghori Defra.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.