BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Adrodd Straeon Masnach Deg: tu ôl i’r llen

Dewch i’n digwyddiad ‘Adrodd Straeon Masnach Deg: tu ôl i’r llen’ i ddysgu fwy am sut mae sefydliadau Masnach Deg yn ail-fframio’u naratif, a sut gallwch ddysgu wrthyn nhw.

Ymunwch â Cymru Masnach Deg Cymru a Hub Cymru Affrica i edrych yn fanylach ar dechnegau adrodd straeon ac i drafod moeseg hybu yn y mudiad Masnach Deg.

Cewch glywed gan sawl Sefydliad Masnach Deg am newidiadau diweddar yn y ffordd maen nhw’n cyfathrebu eu gwaith i gynulleidfaoedd y DU, a sut mae rhai o'u hymagweddau yn cysylltu â phwynt 8 Siarter Gwrth-Hiliaeth Hub Cymru Affrica: "Byddwn yn defnyddio iaith, technegau adrodd straeon, a lluniau priodol a meddylgar. Rydym yn cydnabod bod ganddynt ystyr, y gallant achosi niwed, a’u bod yn gallu atgyfnerthu hiliaeth".

Mae’r Bythefnos Masnach Deg yn rhedeg rhwng 27 Chwefror - 12 Mawrth 2023; os ydych chi'n ystyried sut y gallwch chi adrodd eich straeon Masnach Deg, mae'r digwyddiad hwn i chi! Fe gewch chi glywed gan rywfaint o enwau mawr y byd Masnach Deg, a chael y cyfle i ofyn eich cwestiynau hefyd.

Cynhelir y digwyddiad ar 25 Ionawr 2023 i gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Fairtrade Storytelling: behind the scenes Tickets, Wed 25 Jan 2023 at 13:00 | Eventbrite

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.